Paris '24: Jodie Grinham yn ennill medal aur yn y saethyddiaeth tra'n saith mis yn feichiog
Paris '24: Jodie Grinham yn ennill medal aur yn y saethyddiaeth tra'n saith mis yn feichiog
Mae Jodie Grinham wedi ennill medal aur yn y saethyddiaeth yn y Gemau Paralympaidd, a hithau saith mis yn feichiog.
Enillodd hi a Nathan Macqueen y gystadleuaeth tîm cymysg para-saethyddiaeth nos Lun.
Cipiodd hi'r fedal aur yng ngemau Rio yn 2016 hefyd, ac mae'r para-athletwraig o Sir Benfro wrth ei bodd ar ôl ennill medal arall.
"Mae hwn wedi bod yn wyth mlynedd o waith," meddai.
"Rydym ni wedi ymarfer yn galed, roeddem yn gwybod bod gennym y gallu i wneud hyn.
"Rydym ni wedi cefnogi ein gilydd ac wedi derbyn cefnogaeth gan ArcheryGB a'n hyfforddwyr.
"Rydym y cael y gorfoledd o allu dod allan i fan hyn ac ennill gyda'n gilydd."
Fe enillodd Jodie Grinham fedal efydd yng nghystadleuaeth saethyddiaeth unigol dros y penwythnos hefyd.
Mwy o fedalau i'r Cymry
Roedd nifer o fedalau i'r Cymry ym Mharis dros y penwythnos hefyd.
Ar ôl i'r medalau cyntaf gan athletwyr o Gymru gael eu hawlio ddydd Sadwrn, fe fu rhagor o lwyddiant ddydd Sul wrth i'r seiclwr James Ball a'r rhwyfwr Ben Pritchard gipio medalau aur.
Fe enillodd Ball, o Bont-hir yn Nhorfaen, y ras 1000m yn erbyn y cloc, gyda’i gyd-Gymro Steffan Lloyd fel tywysydd, brynhawn ddydd Sul.
Fe gurodd Ball ei gyd-Brydeiniwr Neil Fachie, a gipiodd y fedal arian, yn rownd derfynol y gystadleuaeth.
Nos Sul fe enillodd Sabrina Fortune o’r Wyddgrug fedal aur wrth daflu’r pwysau F20 gan dorri’r record byd gyda’i thafliad cyntaf o’r gystadleuaeth o 15.12m.
Daeth Rhys Darbey o'r Fflint i'r brig nos Sul wedi iddo ennill medal aur fel rhan o'r tîm cyfnewid nofio 'dull rhydd' 4x100m cymysg S14.
Fe enillodd Matt Bush o Sanclêr, Sir Gaerfyrddin fedal aur yng nghystadleuaeth taekwondo K44 +80kg y dynion yn hwyr nos Sadwrn.
Fe gurodd Bush, 35, yr athletwr paralympaidd niwtral Aliaskhab Ramazanov 5-0 yn y rownd derfynol.
Roedd llwyddiant hefyd i Paul Karabardak yn ennill medal efydd yn y dyblau tenis bwrdd.