Newyddion S4C

'Her newydd' i'r Gymraeg ar blatfform X wedi i Twitter ddiflannu

Newyddion S4C 30/08/2024

'Her newydd' i'r Gymraeg ar blatfform X wedi i Twitter ddiflannu

Mae yna boeni nad yw cynnwys Cymraeg ar y platfform cyfrwng cymdeithasol X yn cyrraedd y cynulleidfaoedd ehangaf posib. 

Yn ôl arbenigwyr digidol mae’n “bryder enfawr” ac yn rhoi “her newydd i’r Gymraeg” gyda rhai sefydliadau, fel Heddlu Gogledd Cymru, yn penderfynu rhoi’r gorau i’r platfform yn gyfan gwbl. 

Fe ddaw hyn ar ôl i’r biliwnydd Elon Musk brynu’r cwmni'r llynedd.

Mae rhai unigolion, gan gynnwys aelodau Seneddol, wedi gadael X oherwydd yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel twf camwybodaeth ar y platfform.

Fe wnaeth Newyddion S4C gysylltu gydag X am ymateb. 

'Gwerthoedd'

Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, mae’r llu yn bwriadu dileu eu cyfrif oherwydd “gwerthoedd” y platfform a lledaeniad camwybodaeth. 

"Mae'n debyg nad yw'n eistedd yn yr un gwerthoedd ag sydd gennym ni fel sefydliad ac rwy'n poeni nad yw weithiau'n portreadu'r wybodaeth gywir i'n cymunedau,” meddai Amanda Blakeman.

"Yn enwedig, mae'n debyg nad yw’n cyrraedd ein cymunedau Cymraeg mor rhwydd ag y mae pobl eraill ac rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad iawn i ni."

Ychwanegodd: "Mae angen i ni fel gwasanaeth gael cyfathrebu cyflym, hawdd gyda'n cymuned i'w diweddaru, i roi gwybodaeth, i ateb cwestiynau, ac mae'r platfform hwnnw wedi dod yn fwy heriol i wneud yn y misoedd a blynyddoedd diwethaf. 

“Felly rydyn ni'n mynd i ddefnyddio ystod o lwyfannau fel y gallwn ni gael ein helpu a chefnogi ein cymunedau.”

 Y Gymraeg 'wedi gostwng yn sylweddol'

Mae un arbenigwr digidol sy’n rhedeg Yr Awr Gymraeg ar wefan X - cyfrif sydd â dilyniant o dros 14,000 ac sydd yn ceisio hyrwyddo cynnwys Cymraeg ar-lein - hefyd yn poeni am gyrhaeddiad postiadau ar y platfform. 

“Ar un adeg oedd y cyrhaeddiad yn cyrraedd cannoedd o filoedd o gyfrifon ond yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf mae lefel yr ymwneud â rhannu negeseuon Yr Awr Gymraeg a negeseuon yn Gymraeg yn gyffredinol wedi gostwng yn sylweddol,” meddai Huw Marshall.

“Mae yna sawl ffactor ar waith. Yn gyntaf ers i Elon Musk brynu fo mae’r llwyfan wedi mynd yn fwy tocsig ac mae llai yn ymwneud â’r llwyfan. 

Image
Huw Marshall
Mae X yn "her newydd i'r Gymraeg" meddai Huw Marshall

“Dwi’n cael y teimlad mai algorithmau tu nôl i X sy’n lleihau cyrhaeddiad cynnwys yn Gymraeg. 

“Mae’n rhoi’r argraff bod 'na rhywbeth mwy ar waith. Dydi o ddim byd sinistr, ond yn amlwg maen nhw isho gwthio negeseuon sy’n mynd i fod yn boblogaidd, felly maen nhw’n mynd i flaenoriaethu ieithoedd mwy poblogaidd fel Saesneg. 

“Mae’n rhoi her newydd  i’r Gymraeg ac mae’n bryder enfawr.”

Ers i’r biliwnydd Elon Musk brynu’r safle am 44 biliwn o ddoleri mae ei gyfraniadau cyson a dadleuol yn ddiweddar wedi troi rhai i ffwrdd o ddefnyddio X. 

“Dyw’r platfform ddim yn gallu cael ei ymddiried ynddo. Dyw e ddim fel Twitter fel oedd e. 

"Mae lot o gynnwys ffug, gwybodaeth, newyddion ffug i gael,” meddai Owen Williams, sy'n arbenigwr digidol. 

Image
Owen Williams
Mae Owen Williams wedi penderfynu gadael ap X

“Mae’r ffaith fod y tics glas yna, y verified tags wedi eu tynnu oddi ar bobl go-iawn hynny yw, yn y meysydd gwleidyddol, newyddion, technoleg. Bellach fe all unrhyw un gal y tic glas yna."

Mae yntau hefyd wedi penderfynu gadael X erbyn hyn.

“Ro’dd 37,000 o ddilynwyr ‘da fi - o ni di crefftio’r cyfrif yma, odd yn creu pob math o gynnwys oedd yn cyrraedd bob rhan o’r byd. Ond bellach allai ddim ymddiried yn y platfform mwyach."

'Newid'

Mae yna adroddiadau bod rhai o Aelodau Seneddol Llafur yn bwriadu dileu eu cyfrifon gydag un wedi gwneud hynny'n barod.

Ond yn ôl un sy’n gweithio ym maes marchnata digidol ac sy’n rhedeg rhai o gyfrifon enwogion a chwmniau yng Nghymru, mae apêl gwefannau eraill hefyd yn chwarae ei ran. 

“Mae X ‘di disgyn lawr y rhestr blaenoriaethau. Mae Facebook, Instagram, Tik Tok, Threads yn bwysicach,” meddai Martha Owen, sy’n gweithio i gwmni Alaw.

“Mae di roi teimlad o ansicrwydd o bobl yn sicr. 

“Ers y rebrand mae'n teimlo fel bod pethe di newid fel platfform - da ‘ni erioed wedi gweld y ffasiwn rebrand mor fawr yn y byd gwefannau cymdeithasol. Roedd y gair tweet yn y geiriadur.

“Ma' cynnwys Tik Tok yn saethu fyny a’r ymgysylltiad erbyn hyn yn dod lot yn rhwyddach yn Gymraeg o gymharu ag X erbyn hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.