Dim angen gwisgo mygydau mewn dosbarthiadau ysgol o fis Medi
Ni fydd gwisgo gorchudd wyneb yn nosbarthiadau ysgol Cymru yn cael ei awgrymu o fis Medi fel rhan o gynlluniau i "ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i addysg", medd Llywodraeth Cymru.
Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi ysgrifennu at bob pennaeth yng Nghymru i roi mwy o eglurder i ysgolion a cholegau wrth iddynt baratoi at dymor yr hydref.
Dywed Llywodraeth Cymru fod llwyddiant y rhaglen frechu i amddiffyn pobl rhag Covid-19 yn rhoi achos i fod yn "optimistig" ar gyfer y dyfodol.
Fel rhan o'r newidiadau, ni fydd grwpiau cyswllt bellach yn bodoli ar gyfer disgyblion ysgol, na myfyrwyr llawn amser yn y coleg.
Yn hytrach, fe fydd system Profi, Olrhain, Diogelu Cymru yn olrhain cysylltiadau agos unrhyw un sy'n profi'n bositif.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Covid-19 Lleol ar ddechrau tymor yr Hydref i alluogi sefydliadau addysg i amrywio'r mesurau yn seiliedig ar lefel y risg yn lleol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg: "Erbyn diwedd mis Medi bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y ddau frechlyn, gan ddarparu mwy o ddiogelwch i’n gweithlu addysg. Mae corff cynyddol o dystiolaeth hefyd yn dangos bod plant a phobl ifanc yn profi mwy o niwed o golli'r ysgol nag o covid.
“Mae llawer o’r bobl ifanc rydw i wedi siarad â nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod y system bresennol yn gymesur. Maen nhw eisiau cael eu trin yr un fath â phawb arall - ac mae hynny'n swnio'n deg i mi.”
'Angen mwy o eglurhad'
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg brynhawn dydd Gwener ond yn galw am fwy o eglurhad ar gyfer ysgolion.
Dywedodd Laura Anne Jones AS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Addysg: “Yn dilyn y rhaglen frechu lwyddiannus mae’n wych i weld Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrando ar alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â’r pwysigrwydd o ddychwelyd i normalrwydd cyn gynted â phosib yn ein hysgolion a cholegau. Dyma sydd wir angen ar ein plant a’n hathrawon.
“Mae cael gwared ar fygydau, swigod, ac amrywio dechrau amser gwersi yn rhan o’r datganiad i’w groesawu, ac rwy’n falch bod y Gweinidog bellach yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru wneud y penderfyniadau yma, gan mai dyma'r peth cywir i’w wneud.
“Er hynny, rwy’n dal yn bryderus na fydd fframwaith penderfyniadau rheoli haint Covid-19 Llywodraeth Llafur Cymru yn barod tan ddechrau tymor yr Hydref. Mae angen mwy o eglurhad ar ysgolion ynglŷn â lefel eu cyfrifoldeb cyn gynted â phosibl a rhaid i weinidogion Llafur ddarparu'r manylion pwysig yma,” ychwanegodd.
Dywed y Llywodraeth fod angen i ysgolion brofi llacio yn y cyfyngiadau sydd yn eu hwynebu wrth i gyfyngiadau lacio ar draws y gymdeithas yn ehangach.
Fe fydd adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o'r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf gyda disgwyl cyhoeddiad erbyn dydd Gwener, 16 Gorffennaf.