Teyrnged i ŵr a gwraig a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares
Mae teyrnged wedi ei rhoi i ŵr a gwraig a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Miwmares, Ynys Môn, brynhawn Mercher.
Roedd Stephen a Katherine Burch yn 65 oed ac yn byw yn Alcester, Sir Warwick.
Mewn teyrnged i'r ddau, dywedodd Esgobaeth Coventry mewn datganiad: “Daw hyn fel sioc i’r esgobaeth gan y bydd llawer yn adnabod Steve, a ymddeolodd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ar ôl gwasanaethu gyda ni mewn sawl rôl am dros 35 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Ficer St James, Fletchamstead am 19 mlynedd.
“Roedd Steve yn aelod poblogaidd o’n hesgobaeth ac yn adnabyddus am ei hiwmor da a’i ffydd ddiwyro a bydd llawer hefyd yn adnabod Kathy yn dda o’i gwaith gyda CPAS a’r weinidogaeth weddi.
"Fel cwpl roeddent yn dal yn weithgar iawn ar ôl ymddeol eleni, gan redeg cwrs Alpha yn arwain at fedydd a chonffyrmasiwn.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theulu Steve a Kathy ar yr adeg hon yn enwedig eu plant, David, Jonathan a Sarah wrth iddynt ddod i delerau â’r golled ddinistriol, annisgwyl hon.”
Dywedodd y teulu: “Gofynnwn yn garedig i chi barchu ein preifatrwydd wrth i ni alaru. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch gweddïau."
Cafodd y gwasanaethau brys a dau ambiwlans awyr eu galw i Stryd Alma yn y dref am 14.45 ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car Audi A8 a cherddwyr.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a cherddwyr gyfagos, bu farw tri pherson yn y digwyddiad.
Gyrrwr y cerbyd a dau gerddwr ar y stryd oedd y rhai a fu farw yn y digwyddiad meddai'r heddlu ddydd Iau.
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theuluoedd y tri a fu farw o’u hanafiadau.
“Rydym yn parhau a'n hapêl ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad nad yw eisoes wedi siarad â swyddogion, neu unrhyw un sydd â chamera dash neu gamera drws ffrynt i gysylltu â ni.
“Rydym yn annog pobl i beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau’r gwrthdrawiad, ac os oes gan unrhyw un wybodaeth am y gwrthdrawiad, ac sydd eto i siarad â ni, fe’u hanogir i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
Gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddigwyddiad gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000745374.