Y ddraig goch yn ysbrydoli citiau newydd rygbi Cymru
Y ddraig goch sydd yn ysbrydoliaeth i gitiau newydd rygbi Cymru a gafodd eu rhyddhau ddydd Gwener.
Bydd y crys cartref yn goch gyda siorts gwyn a sanau coch i'r dynion a siorts coch a sanau gwyn i'r menywod.
Mae'r cit oddi cartref yn wyn gyda siorts gwyrdd gyda sanau gwyn, sydd yn cynnwys dau batrwm gwahanol; mae un yn cynnwys tri stribyn coch llydan, a'r llall yn wyn gyda dau stribed coch a gwyrdd.
Macron sydd wedi creu'r citiau ac mae llewys y crys yn cynnwys "effaith optegol sy'n cynrychioli fflamau'r ddraig."
Mae'r crysau newydd, ynghyd â fersiynau ‘replica’ ar gael i'w prynu. Maen nhw'n costio £44 i blant, £64 ar gyfer meintiau ieuenctid gyda’r prisiau ar gyfer oedolion yn dechrau am £80.
Tîm menywod Cymru fydd y cyntaf i wisgo'r cit newydd pan fyddent yn wynebu Awstralia yn Rodney Parade yn eu hail gêm baratoadol ar gyfer y WXV2 ar 20 Medi.
Bydd y cit gwyn newydd i’w weld am y tro cyntaf pan fydd y menywod yn chwarae oddi cartref paratoadol yn y WXV2 yn erbyn Yr Alban ar y 6 Medi.
23 Tachwedd fydd y tro cyntaf i’r dynion gael ei wisgo pan fyddant yn wynebu De Affrica yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref yn Stadiwm Principality.
'Cynrychioli pob un cefnogwr'
Dywedodd capten Menywod Cymru, Hannah Jones ei fod yn anrhydedd mai'r menywod fydd yn gwisgo'r cit newydd yn gyntaf.
"Mae gwisgo'r crys coch wastad yn foment falch ac arbennig, gan ein bod yn gwybod ein bod yn cynrychioli'r genedl, ein teuluoedd a'n ffrindiau, yn ogystal â’r chwaraewyr sydd wedi ein harwain ni at y pwynt yma yn ein hanes," meddai.
"Ry’n ni hefyd yn gwybod ein bod yn cynrychioli pob un o’n cefnogwyr sy’n fraint anhygoel.
"Mae’r ffaith mai tîm y menywod fydd yn cael y cyfle cyntaf i wisgo’r crysau newydd yn erbyn Yr Alban ac Awstralia hefyd yn gyffrous ac yn anrhydedd – wrth i ni baratoi ar gyfer y WXV2 yn Ne Affrica."
Ychwanegodd capten dynion Cymru, Dewi Lake ei fod yn gyffrous i ddychwelyd i Stadiwm Principality yn gwisgo'r cit newydd.
"Bob tro ry’ch chi'n gwisgo'r crys coch mae'n brofiad balch ac arbennig iawn," dywedodd.
"Mae chwarae dros eich gwlad yn deimlad breintiedig iawn ac mae’n anrhydedd enfawr cael eich dewis i wisgo’r crys. Rwy'n gwybod y bydd pob aelod o’r garfan yn edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Stadiwm Principality yng Nghyfres yr Hydref er mwyn cynrychioli ein cefnogwyr, ein teuluoedd a'n ffrindiau – a hynny gyda balchder mawr."
Llun: Undeb Rygbi Cymru