Newyddion S4C

Prif dyst yr erlyniad yn achos Lucy Letby'n mynnu ei bod hi'n euog

Newyddion S4C 29/08/2024

Prif dyst yr erlyniad yn achos Lucy Letby'n mynnu ei bod hi'n euog

Mae'r nyrs Lucy Letby'n adnabyddus fel llofrudd cyfresol ar hyd a lled y byd, ond cynyddu y mae nifer yr arbenigwyr sy'n codi cwestiynnau am ddilysrwydd dyfarniad Llys y Goron.

Wedi ei chael yn euog o lofruddio saith babi, a cheisio llofruddio chwech arall, fe fydd y cyn nyrs i fabanod newyddanedig yn marw mewn carchar.

Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.

Dadl rhai arbenigwyr yw bod y dystiolaeth yn erbyn Letby yn gamarweiniol. Mae ystadegwyr yn eu plith yn cwestiynnu'r modd y cafodd rhai ffeithiau eu cyflwyno i'r rheithgor.

Y cyn-ymgynghorydd paediatrig Dr Dewi Evans oedd prif dyst yr erlyniad.

Mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion S4C mae Dr Evans yn mynnu mai Lucy Letby lofruddiodd y babanod a bod yr holl sylw diweddar yn achosi loes pellach i rieni'r plant.

Mae'r doctor wedi byw troseddau dieflig Lucy Letby - ers chwe blynedd.

Yn gyn-ymgynghorydd paediatrig, bu'n dyst meddygol arbenigol mewn llysoedd ers degawdau, ond doedd yr un achos wedi cael sylw fel hwn.

Ar ôl pori drwy filoedd o ddogfennau o Ysbyty Countess of Chester, roedd ei dystiolaeth yn ganolog i benderfyniadau'r rheithgor, a charcharu Letby.

Fisoedd yn ddiweddarach, cytunodd tri o uwch farnwyr y Llys Apêl bod dadansoddiad Dr Evans yn gwbl ddibynadwy.

Image
Lucy Letby pan gafodd ei harestio yn 2018
Lucy Letby pan gafodd ei harestio yn 2018. Llun: PA

Dywedodd ei fod yn argyhoeddiedig mai'r cyn nyrs oedd yn gyfrifol.

"Heb os hi oedd yn gyfrifol am lofrudddio y saith baban ac heb os hi oedd yn gyfrifol am ymdrechu i drio lladd nifer o fabanod eraill a mae'n wyrth a dweud y gwir bod cwpwl o nhw dal yn fyw".

Mae Dr Evans wedi derbyn ymosodiadau geiriol cyhoeddus tuag ato yn dilyn yr achos.

"Mae'r ymosodiadau yn dod gan bobl sydd â'r lleia o wybodaeth," meddai.

"Mae nhw'n dod wrth feddygon sydd ddim wedi gweld recordiau'r babanod, sydd ddim wedi clywed y dystiolaeth, oedd ddim yn bresennol yn yr achos ac erbyn hyn yn amlwg sy ddim wedi darllen adroddiad cyflawn y Llys Apêl."

Yn ôl Dr Dewi Evans, ystadegwyr sy'n bwydo'r damcaniaethu a'r amheuon rhyngwladol.

"Mae'r ystadegwyr wedi bod yn gyrru hyn yn gyson ac amau bod yr heddlu, yr erlyniad a ni fel tystion ddim wedi deall yr ystadegau. A'r ateb wrth gwrs yw roedd yr achos hyn ddim byd i'w wneud ac ystadegau. Doedd statistics ddim i'w wneud a'r erlyniad".

Roedd achos yr erlyniad yn eang. Ymhlith y dystiolaeth, roedd canlyniadau profion bod dau o'r babanod wedi cael gor-ddos o inswlin, a phrofion pelydr X yn cadarnhau bod aer wedi cael ei chwistrellu yn fwriadol i gyrff saith arall. 

Gwendidau amddiffyniad Letby?

Fe benderfynodd tîm cyfreithiol Lucy Letby i beidio a galw unrhyw dystion meddygol, gan ddibynnu ar adroddiadau ysgrifenedig yn unig.

Ac mae Dr Evans yn cytuno bod yna wendidau yn amddiffyniad Letby.

"Fe ga'th hi achos teg oherwydd roedd ymchwiliad heddlu Caer yn drylwyr rhyfedda, o nhw wedi mynd i bob man alle ni feddwl i sicrhau bod y dystiolaeth yn deg a bod pob math o wybodaeth gyda nhw".

Image
Ysbyty Countess of Chester
Yr ysbyty lle'r oedd Lucy Letby yn gweithio fel nyrs. Llun: Wochit

Mae disgwyl i'r ymchwiliad i'r modd y deliodd Ysbyty Countess of Chester a'r Gwasanaeth Iechyd agor ar 10 Medi. Bryd hynny daw rheolwyr yr ysbyty dan y chwyddwydr.

Mae Dewi Evans yn cytuno gyda chylch gorchwyl y Fonesig Ustus Thurlwall, fydd yn ymchwilio i brofiad y teuluoedd a phenderrfyniadau rheolwyr.

"Dw i ddim yn rhan o'r ymchwiliad, a dw i ddim wedi clywedd dim amdani," meddai.

"Mae eisiau edrych ar brofiad y teuluoedd a chlywed wrthyn nhw, mae hynny'n hollbwysig. Mae nhw wedi cael amser ofnadwy ac dw i'n flin iawn bod y cyhoeddusrwydd hyn, sydd o blaid Letby yn dal i barhau achos mae hyn yn bwysau ychwanegol ar y teuluoedd hyn.

"Mae nhw wedi diodde' digon fel mae 'ddi heb gael ystadegwyr o'r Iseldiroedd yn clochdar heb gael y wybodaeth."

Mae prif dyst yr erlyniad yn gadarn ei farn ac yn dal ei dir, ond bwydo o hyd y mae'r damcaniaethu - a'r amheuon am euogfarn Lucy Letby. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.