Dau gerddwr a gyrrwr car fu farw ger pier Biwmares
Dau gerddwr a gyrrwr car fu farw ger pier Biwmares
Mae Newyddion S4C ar ddeall mai dau gerddwr a gyrrwr fu farw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares ddydd Mercher.
Mae ymchwiliadau yn parhau wedi'r digwyddiad yn y dref ar Ynys Môn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Heddlu Gogledd Cymru: “Gallwn gadarnhau bod tri o bobl wedi marw. Ry'n ni'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad nad sydd eisioes wedi siarad â'r heddlu, i gysylltu â ni."
Dywedodd Ifan Jones, a oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad, iddo weld car yn taro wal ac iddo glywed swn 'bang' mawr.
"Odd pawb yn rhedeg tuag at scene y digwyddiad," meddai.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd AS Plaid Cymru dros Ynys Môn, Llinos Medi: “Mae e’n drychineb, mae ‘di ysgwyd y gymuned ym Miwmares ag ar yr Ynys i gyd.
“Mae rhywun yn cydymdeimlo’n ddwys gyda’r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio a phawb oedd yn yr ardal ar y pryd hefyd achos mae ‘na nifer o bobol sydd wedi gwirfoddoli a jyst ymgymryd â’r tasgau yno yn ystod yr argyfwng yna.”
Hefyd yn ymateb i'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y cyn-AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, ei bod yn "meddwl ac yn gweddïo am y dioddefwyr, eu teuluoedd a'u hanwyliaid sydd wedi cael eu heffeithio."
Mae arweinydd Plaid Cymru, sydd hefyd yn aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi ymateb i’r digwyddiad: “Mae hyn yn newyddion torcalonnus ac mae fy nghydymdeimlad gyda’r rheiny sydd wedi eu heffeithio, yn ogystal â’u hanwyliaid.
“Rwy’n ddiolchgar i’r gwasanaethau brys am eu hymateb prydlon.”