Newyddion S4C

Arweinwyr y diwydiant ynni i gwrdd â Llywodraeth y DU i drafod cefnogaeth i bobl fregus

28/08/2024
Nwy

Bydd arweinwyr y diwydiant ynni yn cwrdd â Llywodraeth y DU ddydd Mercher i drafod ffyrdd o gefnogi pobl fregus ar ôl i filiau godi ac wrth i'r gaeaf agosáu.

Fe fydd cynrychiolwyr o gwmnïau Centrica, EDF, E.On, Octopus Energy, Scottish Power, Good Energy, Rebel Energy, Ovo, So Energy, Ecotricity a Utility Warehouse yn cwrdd â'r Aelod Seneddol Miatta Fahnbulleh.

Fe fydd rheoleiddwyr y diwydiant Ofgem yno hefyd, ynghyd ag Energy UK a Citizens Advice.

Daw'r cyfarfod ar ôl cyhoeddiad gan Ofgem a ddywedodd  y bydd  biliau ynni yn codi hyd at £149 ym mis Hydref .

Mae hyn yn gynnydd o'r £1,568 presennol ar gyfer cartref arferol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU yn tynnu taliadau tanwydd gaeaf yn ôl oddi ar filiynau o bensiynwyr sydd ddim yn derbyn budd-daliadau.

Bydd y polisi hwn, sydd â’r nod o lenwi'r twll mewn cyllid cyhoeddus, yn atal taliad £300 i bobl yng Nghymru a Lloegr sydd ddim yn derbyn Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill.

Mae disgwyl y bydd hyn yn lleihau nifer y pensiynwyr sy’n derbyn y taliad o 11.4 miliwn i 1.5 miliwn, gan arbed tua £1.4 biliwn yn y flwyddyn ariannol hon.

'Biliau uchaf erioed'

Mae Syr Keir Starmer wedi wynebu galwadau am dro pedol ar y cynllun, gyda phwysau o fewn ei blaid, gan wrthwynebwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr.

Dywedodd Charity Age UK y “bydd hyd at ddwy filiwn o bensiynwyr sydd angen yr arian i gadw’n gynnes y gaeaf hwn ddim yn ei dderbyn a byddant mewn trafferth difrifol o ganlyniad”.

Dywedodd Simon Francis, cydlynydd End Fuel Poverty Coalition: “Mewn termau real, mae’r newidiadau y gaeaf hwn yn golygu y bydd rhai pobl hŷn yn wynebu’r biliau ynni uchaf erioed.

“Mae gan hyn y potensial i greu argyfwng iechyd cyhoeddus a fydd mewn gwirionedd yn creu mwy o bwysau ar y GIG, pwysau y mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod am ei drwsio.”

Ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog: “Roedd yn ddewis yr oedd yn rhaid i ni ei wneud, yn ddewis i amddiffyn y pensiynwyr mwyaf bregus tra'n gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i atgyweirio'r cyllid cyhoeddus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.