Newyddion S4C

Tanni Grey-Thompson wedi gorfod 'cropian' oddi ar drên

27/08/2024
Tanni Grey Thompson.png

Mae'r bencampwraig baralympaidd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dweud iddi orfod "cropian" oddi ar drên yn King's Cross, Llundain nos Lun am nad oedd unrhyw un yno i'w chynorthwyo.   

Eglurodd y Gymraes iddi deithio ar drên o Leeds i'r orsaf yn Llundain, a darganfod nad oedd aelod o staff yno i roi help llaw iddi pan gyrhaeddodd am 22:00. 

Ychwanegodd iddi orfod aros am 16 munud cyn i rywun ddod i'w chynorthwyo. 

Mae cwmni trenau LNER wedi dweud bod ymchwiliad ar y gweill.  

Mae gan y Farnwnes Grey-Thompson, spina bifida, a bu'n cystadlu mewn rasys cadair olwyn mewn pum Gêm Baralympaidd rhwng 1988 a 2004. 

Cipiodd 11 medal aur, pedair medal arian ac un efydd.

Dywedodd wrth raglen Today BBC Radio 4 iddi fethu ei thrên am 19.15  ond llwyddodd i ddal y gwasanaeth am 19 .45. Ond wedi iddi gyrraedd gorsaf  King’s Cross, doedd neb yna i gyfarfod â hi.  

'Crac'

“Fe wnes i aros am bum munud, cyn i mi roi unrhyw beth ar gyfryngau cymdeithasol,” meddai.

“Ond ar ôl eistedd am 16 munud yn King’s Cross, a neb i'w weld yno – roedd cwpwl o lanhawyr, ond doedd dim modd iddyn nhw fy nghynorthwyo am resymau yn ymwneud ag yswiriant - ac felly mi benderfynais gropian oddi ar y trên.

“Rwy'n mynd i Baris yn ddiweddarach heddiw, roedd gen i ychydig o fagiau, roedd rhaid eu lluchio ar y platfform, dod allan o nghadair, eistedd ar y llawr yn ymyl y drws, sy' ddim yn hynod o bleserus ac yna cropian oddi yno.”

Ychwanegodd: “Doedd neb yno. Roeddwn i eitha crac neithiwr.”

Wrth egluro ymhellach, dywedodd y Farnwes Grey-Thompson: “Mae hawliau gan bobl anabl. Roeddwn i wedi gwneud cais  ffurfiol am gymorth, ond fe gollais y trên cyntaf, ond yn gyfreithiol, mae gen i hawl i fynd i orsaf a gofyn os y caf fynd ar drên. 

“Felly yn fy marn i,  pan fo rhywun wedi fy rhoi ar drên, mae gen i gytundeb, sy'n golygu bod angen i rywun fy nghwrdd ben arall y daith 

“Dyw'r system archebu ddim yn ddigon da. Mae pob cwmni trên yn gwneud pethau fymryn yn wahanol."

Ymddiheuriad   

Derbyniodd alwad gan uwch aelod o dîm cwmni trenau LNER nos Lun, ac maen nhw wedi cysylltu â hi ddydd Mawrth er mwyn nodi fod ymchwiliad ar y gweill.   

Nododd rheolwr gyfarwyddwr LNER David Horne ar gyfrwng X: "Rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am hyn Tanni."

“Fe aeth rhywbeth o'i le yn amlwg 

“Byddwn yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod yr hyn aeth o'i le, a byddwn yn rhannu'n manylion.”

Dywedodd Alison Kerry, pennaeth cyfathrebu elusen Scope: “Mae hyn yn ein hatgoffa fod bobl anabl yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd yn rhy aml 

“Ar drothwy'r Gemau Paralympaidd, mae hyn yn tanlinellu'r gwaith mawr sydd angen ei gyflawni eto. Ddylai hi ddim fod yn anodd i ddefnyddiwr cadair olwyn ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

Mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.