Dyn ifanc yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad tra roedd yn cerdded yn Abertawe
Mae dyn ifanc yn yr ysbyty gydag anafiadau allai newid ei fywyd ar ôl gwrthdrawiad yn ystod oriau mân y bore yn y Mwmbwls, Abertawe.
Yn ôl yr heddlu, roedd y dyn 22 oed yn cerdded yn yr ardal pan gafodd ei daro gan gar Kia Rio gwyn tua 01:10 y tu allan i siop y Co-Op.
Roedd y car yn teithio o gyfeiriad Pier y Mwmbwls i ardal Newton.
Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad, ac mae disgwyl i ran o Ffordd y Mwmbwls rhwng Church Park Lane a Dunns Lane barhau ar gau tan tua 13:00 ddydd Llun.
Mae swyddogion yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ac yn awyddus i siarad â phobl sydd â lluniau cylch cyfyng.
Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu drwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2400285581.