Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o Fangor o droseddau treisgar

25/08/2024
Yr Heddlu

Mae dyn o Fangor wedi cael ei gyhuddo o droseddau treisgar.

Mae Gary Wyn Morgan, 32 oed, wedi cael ei gyhuddo o gyfanswm o bedair trosedd.

Mae'r cyhuddiadau'n cynnwys anafu'n fwriadol, achosi difrod troseddol, ac achosi niwed corfforol i swyddog heddlu.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o dri achos o ymosod ar aelod o'r gwasanaethau brys.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd ei fod yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.