Newyddion S4C

Eryri: Annog ymwelwyr i 'ystyried y cymunedau lleol' yn ystod Gŵyl y Banc

24/08/2024
Parcio yn Eryri

Mae Heddlu'r Gogledd a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi annog pobl i fod yn "ystyrlon i gymunedau lleol" yn ystod Gŵyl y Banc. 

Mae disgwyl i'r rhanbarth fod yn hynod o brysur dros y dyddiau nesaf, gyda gyrwyr yn cael eu hannog i barcio'n gyfrifol a diogel.

Mae trafferthion parcio wedi bod yn ystod cyfnodau prysur o'r haf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i ymwelwyr heidio i'r ardal ers cyfnodau clo'r pandemig Coronafeirws.

Mae tagfeydd difrifol wedi bod yn ardal Pen-y-Pass, a cheir yn parcio'n anghyfreithlon hefyd ar adegau prysur ar droed Tryfan yn Nyffryn Ogwen.

O ganlyniad mae pobl yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw y penwythnos hwn, a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan yn bosib er mwyn lleihau tagfeydd a phroblemau parcio mewn ardaloedd poblogaidd. 

Ychwanegodd yr heddlu a'r Parc bod angen bod yn "ystyriol o'r amgylchedd" drwy gael gwared ar sbwriel a sicrhau bod baw anifeiliaid anwes yn cael ei waredu. 

'Bod yn gyfrifol'

Dywedodd Arolygydd Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru Jason Diamond: "Wrth i ni fentro i benwythnos gŵyl y banc olaf yr haf, rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn mentro allan i fwynhau golygfeydd godidog Eryri, fodd bynnag, gyda hyn mewn cof, rydym unwaith eto yn annog pobl i fod yn gyfrifol.

“Dylai modurwyr sy’n dod i’r ardal feddwl ble maent yn parcio ac gwneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael. Mae hwn yn cynnwys gwneud defnydd o’r gwasanaeth bws gwennol sy’n cael ei ddarparu yn y Parc Cenedlaethol.

"Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn annerbyniol. Nid yn unig mae hyn yn peryglu bywydau ond hefyd mae’n atal mynediad brys i gerbydau, gan gynnwys mynediad i Dimau Achub Mynydd."

'Gwarchod ein cymunedau'

Ychwanegodd Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro Parc Cenedlaethol Eryri, Jonathan Cawley: "Wrth i ŵyl y banc agosáu, mae’n bwysig i bawb sy’n cynllunio taith i Eryri fod yn ymwybodol bydd rhai o’n safleoedd yn llawn.

"Rydym yn argymell yn gryf i ymwelwyr feddwl yn ofalus am ben eu taith a chael cynllun wrth gefn os yw’r dewis cyntaf yn rhy brysur. Trwy fod yn hyblyg, gallwn barhau i warchod ein cymunedau ac amgylchedd a sicrhau bod pawb yn cael mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel."

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn annog y cyhoedd yng Nghymru ac ar draws y DU i “adael dim olion” wrth ymweld â mannau natur gorau dros benwythnos gŵyl y banc.

Dywedodd yr elusen fod pryder am gynnydd sylweddol mewn gwersylla anghyfreithlon a sbwriel yng nghefn gwlad ac ar yr arfordir dros y misoedd diwethaf.

Mae hyn wedi bod yn effeithio ar waith cadwraeth yr ymddiriedolaeth yn ogystal â bywyd gwyllt, anifeiliaid pori a thenantiaid fferm, meddai’r elusen.

Yng ngwarchodfa natur Cwm Idwal yn Eryri, mae cynefinoedd gwarchodedig iawn yn cael eu niweidio gan wersylla anghyfreithlon bron bob nos, barbeciws a sbwriel gwasgaredig, meddai’r Ymddiriedolaeth.

Yn ddiweddar fe wnaeth gwres o dân gwersyll chwalu craig 450 miliwn o flynyddoedd oed oedd wedi'i cherfio gan rewlif.

Mae ardal Cwm Idwal yn nodedig am ei chreigiau a phlanhigion bregus prin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.