Newyddion S4C

'Heriau o hyd' er bod gwelliant yn adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd

22/08/2024
adran achosion brys glan clwyd.png

Mae 'heriau o hyd' er bod 'gwelliant' yn Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn ôl adroddiad newydd.

Roedd yr adran wedi ei beirniadu ym mis Mai 2022, a cafodd ei dynodi'n Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol (SRSI). Dim ond "ychydig o welliant" oedd wedi ei wneud erbyn arolwg arall  ym mis Tachwedd 2022.

Ond erbyn hyn mae "gwelliannau amlwg" wedi digwydd yn ol  Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. a gyhoeddodd adroddiad ddydd Iau wedi arolygiad dirubydd o'r adran. 

Yn gyffredinol, nododd yr arolygwyr ddiwylliant gwell, cynnydd mewn lefelau staffio ac arweinyddiaeth gryfach.

Oherwydd hynny, mae'r Arolygiaeth wedi diddymu statws SRSI yr adran, ond mae nhw'n dweud fod gwasanaethau yn parhau i weithredu 'mewn amodau heriol iawn'.

Mae'r rhain yn cynnwys amseroedd aros gormodol a phrosesau annigonol ar gyfer rheoli meddyginiaethau.

Roedd arolygwyr yn poeni fod y pwysau a'r galw yn yr adran yn arwain at 'risg bellach i'r cleifion'.

Ond fe welson nhw dystiolaeth o gyfathrebu da ymysg staff mewn cyfarfodydd trosglwyddo rhwng shifftiau yn ogystal â chydweithio da yn yr adran a gyda staff ambiwlans. 

Gofynodd yr arolygwyr am sicrwydd ar unwaith y byddai camau yn cael eu cymryd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gwirio cyfarpar achub bywyd a rheoli meddyginiaethau. 

'Amodau heriol'

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: "Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelsom fod y staff yn gweithio'n eithriadol o galed mewn amodau heriol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion. 

"Mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o'r adran, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach o hyd. 

"Y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddeall yr heriau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu yn glir, ac y bydd yn cefnogi'r camau sydd angen eu cymryd i wella."

'Hollol ymrwymedig'

Wrth ymateb, dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gyfrifol am yr adran: "Er ei bod yn amlwg bod materion i fynd i'r afael â nhw, mae pob un ohonom yn ymrwymedig i ddarparu'r gofal a'r profiad gorau posibl. 

"Mae ein Hadrannau Achosion Brys bob amser yn hynod brysur ac rydym yn ystyried ffyrdd o ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol er mwyn gwella amseroedd aros a phrofiad pobl o ran gwasanaethau gofal iechyd. 

"Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod gwahaniaeth pendant a phositif yn cael ei wneud, gan nodi'r gwelliannau pellach yr ydym yn hollol ymrwymedig i'w rhoi ar waith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.