Newyddion S4C

Disgyblion ar draws Cymru i dderbyn eu canlyniadau TGAU

22/08/2024

Disgyblion ar draws Cymru i dderbyn eu canlyniadau TGAU

Bydd miloedd o ddisgyblion ar draws Cymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU ddydd Iau. 

Eleni oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru ddychwelyd i lefelau graddio arholiadau cyn pandemig Covid-19.

Roedd canlyniadau TGAU yng Nghymru y llynedd 'hanner ffordd' rhwng y rhai a gafodd eu dyfarnu yn 2019 a 2022. 

2019 oedd y flwyddyn olaf cyn y pandemig, a 2022 y flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll arholiadau wrth i Gymru ddod allan o’r pandemig.

Fe gafodd 300,409 o raddau TGAU eu dyfarnu y llynedd, sydd yn llai na 2022 ond yn fwy nag yn 2019.

Roedd 21.7% o'r graddau TGAU yng Nghymru yn radd A/7 neu'n uwch, tra bod 64.9% yn C/4 neu'n uwch ac roedd 96.9% yn G/1 neu'n uwch.

Roedd 9% o'r graddau TGAU i bobl ifanc 16 oed yn raddau A*, 22% yn A* neu A a 65.6% yn raddau A*-C.

Cafodd canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru eu cyhoeddi ddydd Iau diwethaf. 

Fe wnaeth y graddau uchaf ar gyfer canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru ostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9% eleni, o gymharu â 34% yn 2023.

Er y gostyngiad, mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn cyfnod pandemig Covid-19, pan roedd canran y graddau A-A* yn 26.5%.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.