Gorchuddio Pont Llangollen i ddathlu’r Eisteddfod Ryngwladol

NS4C

Mae un o adeiladweithiau mwyaf eiconig tref yn Sir Ddinbych wedi cael gweddnewidiad.

Mae Pont Llangollen, sy’n bont restredig gradd I, wedi ei gorchuddio mewn clytwaith lliwgar er mwyn nodi wythnos yr Eisteddfod Ryngwladol, sy’n cael ei chynnal yn ddigidol dros y penwythnos.

Mae’r gwaith celf wedi ei ddylunio gan yr artist Luke Jerram, sydd wedi creu gosodiadau celf gyhoeddus ledled y byd. Dyma waith cyntaf Mr Jerram yng Nghymru.

Image
Pont Llangollen wedi ei gorchuddio
Mae'r pobl ar draws y byd wedi cyfrannu i greu'r campwaith. Llun: Dave Roberts

Dywedodd Mr Jerram: “Pan welais bont Llangollen am y tro cyntaf, nes i ddisgyn mewn cariad gyda hi. Mae mor eiconig ac wrth galon y dref.

“Ar draws y bryd, mae pontydd wedi eu defnyddio fel ffordd gorfforol a symbolaidd i gysylltu pobl – sy’n cyd-fynd yn berffaith gyda nod ac uchelgeisiau’r Eisteddfod.”

Gwnaeth yr Eisteddfod alw ar y cyhoedd i gyfrannu i greu’r clytwaith, gan ofyn i bobl baratoi tameidiau a’u cyflwyno i’r Eisteddfod erbyn diwedd mis Mehefin.

Dywed yr eisteddfod fod pobl ledled y byd wedi cyfrannu i greu’r gampwaith.

Image
Pont Llangollen wedi ei gorchuddio
Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn y dref tan 4 Awst. Llun: Dave Roberts

Mae’r bont 60m o hyd wedi ei lapio gyda’r defnydd, gyda’r lliwiau wedi eu hysbrydoli gan berfformwyr yr eisteddfod, medd yr artist.

Bydd y bont yn cael ei dadorchuddio yn swyddogol fore dydd Gwener, gyda’r gosodiad yn cael ei arddangos yn y dref tan 4 Awst.

Llun: Dave Roberts