'Fe roddais fy enaid i'r genedl': Araith ffarwel Joe Biden i'w blaid yn Chicago
Mewn araith ffarwel na fyddai wedi disgwyl ei rhoi sawl mis yn ôl, fe gyfarchodd Joe Biden ei blaid yn llawn emosiwn nos Lun, gan rybuddio fod democratiaeth wedi cyrraedd trobwynt.
Yn dilyn nifer o gamgymeriadau cyhoeddus amlwg yn ystod ei ymgyrch Arlywyddol, fe ddaeth Mr Biden i'r casgliad fis yn ôl mai'r peth gorau fyddai rhoi'r gorau i'w ras yn erbyn Donald Trump i gael ei ethol yn Arlywydd unwaith eto ym mis Tachwedd.
Wrth annerch Confensiwn Cenedlaethol y Democratiaid nos Lun, fe restrodd Mr Biden ei lwyddiannau yn ystod ei gyfnod Arlywyddol.
Ymysg y dorf yn gwrando arno oedd y gwleidydd sydd yn gobeithio ei ddilyn i'r Tŷ Gwyn, Kamala Harris, y dirprwy Arlywydd.
Mae disgwyl y bydd hi'n cael ei chadarnhau'n swyddogol fel enwebiad Arlywyddol y Democratiaid yn ystod y Confensiwn.
Wrth annerch y dorf, dywedodd Joe Biden ei fod wedi rhoi ei galon a'i enaid i'r genedl.
Gwadodd ei fod yn flin am gael ei wthio i gamu i lawr gan eraill, gan ddweud: "Mae'r holl sôn am sut rwy'n flin gyda'r bobl a ddywedodd y dylwn i gamu i lawr - nid yw hynny'n wir."
Diolchodd i'w ddirprwy, gan ychwanegu: “Dewis Kamala oedd y penderfyniad cyntaf un i mi ei wneud pan ges i fy enwebu a dyma’r penderfyniad gorau wnes i yn fy ngyrfa gyfan.
“Mae hi’n galed, mae hi’n brofiadol, ac mae ganddi onestrwydd aruthrol.”
A hithau'n wynebu'r her o geisio cadw'r Democratiaid mewn grym yn yr etholiad, roedd Kamala Harris yn destun sylw amlwg Mr Biden yn ystod ei araith.
Ag er bod ganddi dalcen caled i'w wynebu, mae ei dewis fel ymgeisydd yn y ras Arlywyddol wedi rhoi hwb sylweddol i'r blaid yn yr wythnosau ers i Mr Biden gyhoeddi ei fod am gamu i lawr.
Mewn ymddangosiad annisgwyl diolchodd hithau i Joe Biden o'r llwyfan cyn ei araith yntau:
“Joe, diolch i chi am eich arweinyddiaeth hanesyddol ac am eich oes o wasanaeth i’n cenedl ac am bopeth rydych chi’n parhau i’w wneud,” meddai.
“Rydym yn ddiolchgar am byth i chi.”
Cymaint yw'r sylw wedi bod ar Kamala Harris ers i'w henw gael ei gyhoeddi fel dewis y Democratiaid i redeg am y Tŷ Gwyn yn lle Joe Biden, fe fydd Mr Biden yn gobeithio'n fwy na dim arall am fuddugoliaeth iddi ym mis Tachwedd.
Petai hi'n colli, gan adael y drws yn agored i Donald Trump arwain y wlad unwaith eto, fe fydd haneswyr yn edrych ar benderfyniad Mr Biden i gamu i lawr fis yn ôl mewn golau tra gwahanol.