Newyddion S4C

Entrepreneur o Brydain ymysg chwech sydd ar goll ar ôl i gwch suddo ger yr Eidal

19/08/2024
Mike Lynch cwch

Mae corff wedi’i ddarganfod ar ôl i gwch hwylio suddo oddi ar arfordir yr Eidal fore Llun, meddai awdurdodau y wlad.

Y gred yw mai cogydd y cwch sydd wedi cael ei ddarganfod. 

Roedd nifer o bobl ar y cwch hwylio 56 metr oedd yn chwifio baner Prydain ac mae pedwar o Brydain ymhlith y chwech sydd ar goll, yn ôl adroddiadau gan gyfryngau'r Eidal.

Mae'r entrepreneur technoleg o Brydain, Mike Lynch, a’i ferch 18 oed, Hannah Lynch ymhlith y bobl sydd ar goll, meddai ffynonellau wrth asiantaeth newyddion PA.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys achub 15 o bobl, gan gynnwys plentyn, tra roedd y cwch yn hwylio yng nghanol tywydd garw oddi ar arfordir Palermo yng ngogledd Sisili.

Mae'r gwasanaeth tân ac achub wedi darganfod llongddrylliad 50 metr o dan y dŵr, gyda deifwyr yn chwilio am y bobl sydd ar goll.

Mae'r cwch sydd wedi suddo, y Bayesian, yn 56 metr o hyd, yn ôl gwefan dilyn llongau VesselFinder.

Cafodd ei adeiladu yn 2008 gan y cwmni Eidalaidd Perini Navi.

Enw ei berchennog yw Revtom Ltd. 

Ychydig o wybodaeth ar-lein sydd ar gael i'r cyhoedd am y cwmni. Mae'n ymddangos eu bod wedi'u lleoli ar Ynys Manaw.

Cwblhaodd y Bayesian nifer o deithiau yn ystod y dyddiau diwethaf, gan alw mewn gwahanol borthladdoedd yn Sisili.

Llun: Vigili del Fuoco/PA Wire

 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.