Newyddion S4C

Yr UDA yn parhau i wthio am gadoediad yn Gaza

19/08/2024
Gaza

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, wedi wedi teithio i Israel i wthio am gadoediad yn Gaza.

Daw ei nawfed taith i'r rhanbarth ers i'r rhyfel ddechrau ym mis Hydref ddyddiau'n unig ar ôl i'r Unol Daleithiau gyflwyno cynnig wedi'i addasu, gyda'r nod o bontio'r gwahaniaethau hirsefydlog rhwng Israel a Hamas.

Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud eu bod nhw'n obeithiol o gael cytundeb ar gyfer cadoediad ers i drafodaethau ailddechrau yn Doha yr wythnos ddiwethaf.

Ond dywedodd y grŵp milwriaethus, Hamas, fod y gobeithion hyn yn “gamargraff”.

Yn ôl adroddiadau, mae yna anghytuno ynghylch a fyddai'n ofynnol i filwyr Israel adael Gaza yn gyfan gwbl, fel y mae Hamas yn mynnu.

Mae disgwyl i Mr Blinken barhau i roi pwysau ar arweinydd Israel, Benjamin Netanyahu, pan fyddan nhw'n cyfarfod ddydd Llun, gan ddweud mai nawr yw'r amser iddo dderbyn cytundeb ar gyfer cadoediad.

Gobaith yr Unol Daleithiau yw cael cytundeb yn ei le erbyn yr wythnos nesaf.

Ond nid yw Mr Netanhyahu na Hamas yn rhannu'r un optimistiaeth.

Mae'r naill yn cyhuddo'r llall o ddrwgdybiaeth, gan rwystro cytundeb rhag cael ei gytuno.

Mewn datganiad ddydd Sul, fe wnaeth Hamas gyhuddo Mr Netanyahu o roi “rhwystrau” yn ffordd cytundeb a “gosod amodau a gofynion newydd” gyda’r nod o “ymestyn y rhyfel”.

Ychwanegodd y grŵp fod Mr Netanyahu yn “hollol gyfrifol” am rwystro ymdrechion a “rhwystro cytundeb”.

Mae'r trafodaethau'n cael eu cynnal wrth i densiynau gynyddu yn y rhanbarth. 

Mae Iran wedi bygwth dial yn erbyn Israel ar ôl llofruddiaeth arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh, yn Tehran ar 31 Gorffennaf.

Mae Washington wedi rhybuddio Iran i beidio â bwrw ymlaen ag unrhyw gamau ei ddial yn erbyn Israel.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.