Newyddion S4C

Teulu merch saith oed o Gricieth yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o fath prin o ganser

Newyddion S4C 16/08/2024

Teulu merch saith oed o Gricieth yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o fath prin o ganser

Mae ymchwil i fathau mwy prin o ganser yn cael llai o sylw o’u cymharu â chyflyrau canser mwy cyffredin.

Dyna farn elusen Sarcoma UK sy'n galw am godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ar frys. 

Mae sarcoma yn fath anghyffredin o ganser sy'n gallu datblygu yn unrhyw ran o'r corff gan gynnwys y cyhyrau, esgyrn a thendonau.

Y llynedd, fe gafodd Nansi Alys o Gricieth, sy'n saith oed, ddiagnosis sy'n effeithio ar ddim ond chwech o bob miliwn o bobl.

Pan ddaeth mam Nansi, Leila Evans o hyd i lwmp ar fys troed ei merch, oedd yn dair oed ar y pryd, cafodd wybod mai dim ond dafad neu wart oedd y briw. 

Image
Sarcoma
Daeth mam Nansi, Leila Evans, o hyd i lwmp ar fys troed ei merch

Ond wrth i’r lwmp barhau i dyfu, roedd Leila yn benderfynol bod rhywbeth o’i le ac ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe gafodd Nansi ddiagnosis o fath o ganser prin Sarcoma - sef desmoid fibromatosis.

“Oeddan ni nôl a mlaen o lle doctor o mis Mai 2021 hyd at Mehefin 2022. Ar ôl hynny, nath y doctor ddeud mai benign cyst oedd o a bod o angen sylw pellach,” meddai Leila.

Ar ôl hynny, aeth y teulu i Ysbyty Gwynedd cyn mynd ymlaen i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle daeth cadarnhad mai cyst oedd y lwmp.

“Ar ôl y driniaeth i’w dynnu, nathon ni aros am chwe wythnos am y canlyniadau ac yna’r canlyniadau yn dod mai desmo oedd o a bod yna ychydig yn weddill a bod angen triniaeth pellach er mwyn cael gwared ohono a goruchuddio’r croen gyda croen o adran arall o’r corff. 

"Mae ganddi dal ychydig yn sownd ar y soft tissue felly ma raid i Nansi gael check-ups bob tri mis erbyn hyn.”

'Emosiynol'

Mae desmoid fibromatosis yn un o dros 100 o fathau o ganser sarcoma sy'n gallu effeithio unrhyw un o unrhyw oed. Ond sarcoma ydy’r trydydd canser mwyaf cyffredin ymhlith plant.

Bob dydd mae 15 o bobl yn cael diagnosis o'r cyflwr yn y Deyrnas Unedig.

Image
Leila, mam Nansi
Leila Evans, mam Nansi

A hwythau yn anghyfarwydd hefo'r cyflwr, daeth diagnosis fel sioc i deulu Nansi. 

“Cyn i Nansi gael y diagnosis do’n i heb glywed am y cyflwr. Felly roedd cael y newyddion blwyddyn yn ôl – roedd bob dim yn rhedeg trwy fy meddwl, bod gan fy merch ganser, be sy’n mynd i ddigwydd nesa, be ydi’r driniaeth.

 “I fi, o’n i’n emotional, o’n i isho crio a bob dim yn mynd trwy ’mhen i.

“Mae’r cymorth ’dan ni wedi gael gan deulu a’r gymuned wedi bod yn hollol amazing, ’dan ni mor ddiolchgar iddyn nhw am bob dim,” meddai Leila.

'Cymhleth'

Yn ôl Luke Davies, sy’n nyrs arbenigol sarcoma yn Ysbyty Singleton, Abertawe, mae’r cyflwr yn un “mor gymhleth". 

"Mae dros 100 o wahanol isdeipiau hefyd, felly mae cael diagnosis yn gallu bod yn anodd, felly mae’r pobl sy’n mynd trwy fyw hefo’r cyflwr ac yn aml iawn dydi teuloedd a ffrindiau y person sy’n dioddef heb glywed am y cyflwr o’r blaen.”

Image
Dr Luke Davies
Dr Luke Davies

Yn ôl elusen Sarcoma UK, er bod cynnydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd, mae angen “codi rhagor o ymwybyddiaeth” ar frys.  

Maen nhw’n pwysleisio, bod sicrhau arian yn her a bod ymchwil i sarcoma yn cael llai o sylw ac arian o’i gymharu â chyflyrau canser mwy cyffredin. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod canser yn un o flaenoriaethau’r gwasnaeth iechyd yng Nghymru ac eu bod yn buddsoddi’n sylweddol mewn offer ac adnoddau.

Mae’r gwaith yn rhan o’u hymdrechion i geisio gwella deiagnosis a thriniaeth canser gan gynnwys canserau prin medd llefarydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.