Newyddion S4C

Dyn ifanc o Borthmadog i gerdded 15 copa mewn 24 awr er cof am ei fam

17/08/2024
Huw Gwyn a'i ffrindiau

Fe fydd dyn ifanc o Borthmadog yn ceisio cerdded 15 o gopaon Eryri gyda'i ffrindiau ddydd Sadwrn er cof am ei fam.

Mae Huw Gwyn, 22 oed, a chwech o'i ffrindiau wedi penderfynu ceisio cwblhau Her 3000 Cymru, sef her i gerdded i gopa 15 o fynyddoedd y wlad sydd dros 3,000 o droedfeddi mewn uchder – a hynny o fewn 24 awr.

Fe gollodd Huw ei fam, Gwenan, yn 56 oed yn 2021 yn dilyn brwydr chwe blynedd yn erbyn Clefyd Motor Niwron (MND).

Bwriad yr her yw codi arian ar gyfer elusen Doddie Weir, y cyn-chwaraewr rygbi a fu farw o'r cyflwr yn 2022.

Mae'r criw eisoes wedi codi bron i £4,000 drwy ymgyrch JustGiving.

'Yr hogiau'n gefn mawr i mi'

Mae MND yn effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau, ac nid oes iachâd ar hyn o bryd.

Yn ôl y gymdeithas MND yng Nghymru, mae traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o ddiagnosis.

"Nes i golli Mam yn 2021 felly ma'i 'di bod yn anodd iawn," meddai Huw.

"Ond ma'i 'di bod reit neis gweld ymwybyddiaeth yn cael ei godi ar gyfer MND 'da ni just isio chwarae rhan fach iawn yn helpu i godi arian i drio ffeindio triniaeth iddo fo."

Ychwanegodd: "Mae rhai ohona ni wedi gweld y math o waith mae Sefydliad Doddy Weir yn ei wneud ac wedi dod i ddeall pa mor bwysig ydy o, dyna 'di'r prif reswm bo' ni fel criw o ffrindiau eisiau codi'r arian." 

Er bod Huw a'i ffrindiau eisoes wedi cwblhau sawl her redeg, dyma eu her fwyaf hyd yma.

"Dw i'n edrych ymlaen i'w neud o achos 'da ni'n griw mor agos, 'da ni'n gymaint o fêts," meddai.

"Ma' nhw 'di bod yn gefn mawr i mi, ac mi o'dd o'n gymaint o'i syniad nhw a'n syniad i neud yr her 'ma.

"Mae'n ymdrech tîm go iawn."

Mae'r criw, sy'n chwarae rygbi gyda'i gilydd, wedi bod yn hyfforddi er misoedd er mwyn cyflawni'r her.

Y bwriad yw cychwyn y daith ym Mhen y Pass am 5.00 fore Sadwrn, gan gerdded Crib Goch a'r Wyddfa cyn dod i lawr a cherdded y Glyderau a'r Carneddau, gan orffen ger Llanfairfechan yng Nghonwy.

"Mae'n mynd i gymryd drwy'r dydd tan mae hi'n nosi, felly mae'n dipyn o her," meddai. 

"Mi fydd o'n her reit gorfforol ond yn brofiad gwych i gael gweld gymaint o fynyddoedd."

Ychwanegodd Huw eu bod wedi ail-osod eu targed codi arian yn sgil y gefnogaeth maen nhw wedi eu derbyn.

"Pan natho ni ddechra', £500 oedd ein targed ni felly mae'r gefnogaeth 'da ni 'di gael gan ffrindiau a theulu - a hyd yn oed pobl 'da ni ddim yn eu hadnabod sydd wedi clywed am yr her - wedi bod yn grêt," meddai.

Y bwriad, erbyn hyn, yw codi dros £5,000 ar gyfer Sefydliad Doddie Weir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.