Newyddion S4C

Rhybudd am dresbasu ar reilffyrdd oherwydd peryglon offer trydanol newydd

ITV Cymru 16/08/2024
Y tren newydd

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio pobl i gadw oddi ar y rheilffyrdd oherwydd y peryglon o fynd yn agos at offer trydanol newydd. 

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, gall cyswllt â’r offer fod yn “angheuol”.

Mae ffigurau newydd yn nodi bod 1,000 o achosion o dresbasu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar reilffyrdd y Cymoedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda 73% o’r digwyddiadau yn ymwneud â phobl o dan 17 oed.

Mae tresbasu ar reilffyrdd yn ne Cymru wedi dod yn fwy peryglus ers trydaneiddio'r rheilffyrdd. 

Dywedodd Paul Lawrence, gyrrwr trên gyda Trafnidiaeth Cymru, ei fod wedi bod yn dyst i un digwyddiad lle'r oedd bachgen 14 oed mewn peryg “ofnadwy.”

Dywedodd: “Fe wnaeth y bachgen ifanc ddringo ar y Cyfarpar Llinellau Uwchben y rheilffordd ac i fyny’r postyn sy’n cynnal y llinellau. 

“Yn ffodus doedd y llinell ddim wedi ei thrydaneiddio eto, ac fe wnaethon ni lwyddo i’w gael ar y trên.” 

Mae'r ceblau pŵer newydd uwchben rhai cledrau yn cario 25,000 folt o drydan.

Rhybuddiodd Lois Park, o Drafnidiaeth Cymru, y gallai dod yn rhy agos at yr offer (o fewn 2.75 metr) fod yn angheuol.

“Gall y sioc fod yn angheuol naw gwaith allan o 10,” meddai.

“A gall y sioc rydych chi’n ei dderbyn fod yn ddigon poeth i danio dillad y dioddefwr a’r dioddefwr ei hun."

Er bod achosion o dresbasu wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio pobl i beidio cymryd y risg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.