Newyddion S4C

Primin Môn yn 'llwyfan i arddangos amaethyddiaeth yr ynys'

Sioe Mon

Mae Primin Môn yn 'llwyfan i arddangos amaethyddiaeth yr ynys' yn ôl Cadeirydd y Sioe eleni. 

Bydd y sioe - neu'r Primin fel mae'n cael ei galw'n lleol, yn cael ei chynnal ddydd Mawrth a Mercher yng Ngwalchmai. 

Mae nifer o ddatblygiadau ar gyfer y Primin eleni yn dilyn adborth y llynedd gan y cyhoedd, arddangoswyr a stondinau masnach.

 Bydd sawl adran yn ehangu, o'r adran gneifio i'r adran adloniant i'r gweithgareddau i blant. 

Mae rhannau o'r caeau wedi cael eu tarmacio, yn ogystal â buddsoddi mewn isadeiledd wi-fi gwell ar gyfer stondinau masnach. 

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Môn eleni, Non Gwenllian Williams, wrth Newyddion S4C: "Mae'r Sioe yn andros o bwysig i'r ynys. Mae hi'n uchafbwynt i nifer o drigolion yr ynys - mae o'n cynnig gymaint o bethau gwahanol. Mae o'n lwyfan i arddangos amaethyddiaeth yr ynys ar ei orau, boed hynny o ran y stoc neu'r cynnyrch yn gyffredinol.

"Mae'n Neuadd Fwyd ni'n llawn o fusnesau lleol ac wrth gwrs, mae'n pabell cynnyrch ni yn llawn hefyd. Mae o'n lwyfan i amaethyddiaeth yr ynys ac yn uchafbwynt yng nghalendr amaethyddol yr ynys."

'Brawychus'

Er y cyffro, mae'r Primin fel nifer o sioeau amaethyddol eraill ar draws Cymru yn wynebu heriau parhaus. 

"Mae sioeau ledled y wlad yn wynebu heriau, boed hynny yn ymwneud efo afiechydon anifeiliaid. Wrth gwrs, dydy llwyfannu sioe fel hyn ddim yn digwydd dros nos ac felly mae'r cynllunio mewn gwirionedd yn digwydd yn syth ar ôl sioe y flwyddyn flaenorol," meddai Non. 

"Fe wnaethpwyd y penderfyniad yn gynharach yn y flwyddyn i beidio cael dosbarthiadau dofednod yn y sioe eleni oherwydd y ffliw adar. Mae 'na adran gryf wyau, fodd bynnag does 'na ddim ieir ar y maes.

"Mae TB yn broblem fawr o ran y gwartheg ond yn ffodus iawn eleni, mae nifer y ceisiadau yn yr adran wartheg ar ei fyny felly oeddan ni'n andros o bles o weld hynny. 

"Wrth gwrs, mae costau byw a chostau llwyfannu sioe fel hyn yn frawychus, mae o'n mynd i fyny o flwyddyn i flwyddyn."

'Bwydo o un i'r llall'

Mae'r sioeau amaethyddol ledled Cymru yn bwysig iawn yn ôl Non.

"Nid yn unig ar gyfer ein cymuned cefn gwlad ni ond yn ehangach na hynny hefyd," meddai.

"Dwi'n meddwl bod system ein sioeau ni yn bwydo o un i'r llall, o'r Sioe Fawr i'r sioeau sir, ond hefyd y sioeau pentref a ma' rheiny yn andros o bwysig achos ma' rheiny wedyn yn bwydo i'r sioeau mwy."

Mae Non yn ddiolchgar iawn i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio yn galed er mwyn paratoi ar gyfer y Primin.

"Fyddai'r Sioe ddim yn bosib heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr ni a'n noddwyr ni hefyd. Mae genna ni dîm eang o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio yn ddygyn yma ers sawl wythnos erbyn hyn," meddai. 

"Nid dros nos mae'r maes wedi edrych fel ag y mae o felly 'dan ni'n andros o ddyledus i'r bobl hyn sy'n rhoi o'u hamser yn gwbl wirfoddol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.