Carchar i ddyn a dynes am lofruddiaeth 'greulon' dyn 65 oed ym Mae Colwyn
Mae dyn a dynes wedi derbyn dwy ddedfryd oes am gyfanswm o 48 mlynedd o dan glo, am eu rhan mewn llofruddiaeth “greulon” dyn 65 oed ym Mae Colwyn y llynedd.
Bu farw Mark Wilcox yn ystod oriau mân fore Llun, 21 Tachwedd 2023.
Cafodd ei ddarganfod yn farw, wedi ei drywanu a’i guro, yn ei gartref ar Bay View Road, yng nghanol y dref yn Sir Conwy.
Ddydd Iau 8 Awst, penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug bod partner Mr Wilcox, Lauren Harris, 29 oed, o Fae Colwyn, a David Webster, 43 oed, o Widnes yn Sir Gaer, yn euog o’i lofruddio.
Cafodd Thomas Whiteley, 33 oed, o Glos Emlyn, Hen Golwyn, ei ddyfarnu'n ddi-euog.
Yn yr achos dedfrydu ddydd Llun, cafodd Harris ddedfryd o oes yn y carchar, gyda gorchymyn i dreulio o leiaf 25 mlynedd o dan glo.
Cafodd Webster hefyd ddedfryd oes, gyda lleiafswm o 23 mlynedd yn y carchar.
'Colled ofnadwy'
Wedi’r ddedfryd, dywedodd Dean Quick o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Cafodd Mr Wilcox ei drywanu yn ei gartref ei hun, gan ddioddef anafiadau a wnaeth achosi ei farwolaeth.
“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Mr Wilcox sydd wedi gorfod delio â cholled ofnadwy.”
Roedd y rheithgor wedi clywed fod Mr Wilcox wedi ei ladd ar “eiliad danllyd wedi rhai oriau o yfed a chymryd cyffuriau pan drodd digwyddiadau yn gas a threisgar yn sydyn.”
Cafodd yr heddlu eu galw i’r cartref yn Bay View Road, lle cafodd Mr Wilcox ei ddarganfod wedi marw mewn cadair, ar ôl cael ei guro a’i drywanu ddwywaith.
Clywodd y llys mai Harris oedd wedi ei drywanu.
Roedd dadansoddiad fforensig wedi awgrymu nad yn y gadair y digwyddodd yr ymosodiad.
Wedi’r ymosodiad, fe geisiodd Harris a Webster ffoi oddi yno yng nghar Mr Wilcox, cyn i'r cerbyd daro arwydd ffordd a’i adael ger ffordd yr A55.
Yn ddiweddarach, cafodd dwy gyllell eu canfod yn y cerbyd, gyda phrofion DNA yn cysylltu Webster â’r llofruddiaeth.