Newyddion S4C

Yr heddlu yn cau stryd yng Nghaernarfon ar ôl digwyddiad yn ymwneud â chi

11/08/2024
Stryd Penrallt Uchaf

Mae’r heddlu wedi cau stryd yng Nghaernarfon ar ôl digwyddiad yn ymwneud â chi.

Roedd stryd Penrallt Uchaf wedi ei gau fore Sul gyda thap heddlu ar ei draws o’r ddau gyfeiriad.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw am 11.01 i ddigwyddiad yn ymwneud â chi mewn cartref ar y stryd.

Roedd y gwasanaeth ambiwlans hefyd yn bresennol medden nhw.

“Mae swyddogion yn bresennol ar hyn o bryd yn ardal Penrallt Uchaf, Caernarfon, yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â chi mewn eiddo preswyl,” meddai’r heddlu.

“Cawsom ein galw am 11.01 ac roedd cydweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol. 

“Mae’r ffordd yn parhau ar gau a bydd presenoldeb heddlu yn yr ardal am beth amser tra bod ein hymchwiliadau’n parhau.

“Nid oes unrhyw reswm i’r gymuned ehangach bryderu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.