Cyhuddo dyn o drosedd hiliol ynghanol tref Caernarfon
11/08/2024
Mae dyn 36 oed wedi ei gyhuddo o drosedd hiliol ynghanol tref Caernarfon yng Ngwynedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y drosedd wedi digwydd ar Stryd y Llyn y dref ddydd Gwener.
Cafodd Michael Owen Williams ei gyhuddo o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus wedi ei gwaethygu gan hiliaeth.
Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.