Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi rhoi ‘hwb i’r iaith a’r economi’
Rhoddodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf "llwyfan i'r iaith Gymraeg a hwb i'r economi" meddai un o brif drefnwyr yr ŵyl.
Dywedodd Helen Prosser, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol bod llawer o bobl wedi ymweld â'r Eisteddfod am y tro cyntaf ac yn dod yn ôl ac yn ôl.
"Rwyf wedi cyfarfod teuluoedd cafodd docynnau drwy gynllun y llywodraeth ar gyfer teuluoedd ac yn dod yn ôl sawl diwrnod wedi hynny,” meddai.
“Mae hynny yn beth mor bositif gan helpu gobeithio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Rydym wedi gweld y Gymraeg yn cael lle amlwg ym Mhontypridd a Rhondda Cynon Taf a bod pobl wrth eu boddau dod yma i flasu'r Gymraeg, ein diwylliant ac i weld fod hwn yn perthyn i ni gyd.
"Gellid dweud fod y gwaith yn cychwyn i gadw'r bobl hyn gyda ni ond hefyd beth sy wedi bod yn bleser i mi yw gweld y bobl sydd eisoes gam ymhellach ar y daith ac wedi dechrau dysgu (Cymraeg) ac yn gwirfoddoli ym mhob twll a chornel.
"Mae gennym fwriad cynnal rhyw fath o ffair yn yr hydref lle byddwn yn gobeithio bydd y bobl hyn yn parhau i wirfoddoli ond hefyd, trwy ymbarél y fenter iaith leol dod i wybod mwy am y cyfleoedd eraill sydd ar gael.”
Ychwanegodd fod busnesau Pontypridd "wrth eu boddau" a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cludo dros 50,000 o deithwyr ar eu trenau i orsaf Pontypridd.
"Maen nhw wedi bod yn brysur drwy'r wythnos ac mae Eisteddfodwyr wedi eu cefnogi. Roedd gennym bryderon yr wythnos diwethaf am drafnidiaeth ond nid ydym wedi cael cwynion. Mae'r cynlluniau wedi gweithio'n ardderchog.
"Rydym wedi gweld y ddau beth roeddem eisiau yn deillio o'r Eisteddfod, llwyfan i'r iaith Gymraeg a hwb i'r economi.”
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol nad oedden nhw’n bwriadu cyhoeddi ffigyrau ymwelwyr eto eleni.