Gweithiwr tafarn yn poeni am reolau Covid-19 gwahanol bob ochr i'r ffin

Gweithiwr tafarn yn poeni am reolau Covid-19 gwahanol bob ochr i'r ffin
Fe allai gwahanol reolau coronafeirws achosi trafferthion bob ochr i Glawdd Offa, meddai un gweithiwr tafarn.
Mae Haydn Jones sy'n gweithio yn nhafarn The Old Black Lion yn y Gelli Gandryll yn poeni am reolau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr.
"Pan godith y cyfyngiadau yn Lloegr dwi'n gweld ni'n cael trafferth fan hyn,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.
“Y broblem sy' gynnom ni fan hyn ar y ffin ydy ma' cod post Sir Henffordd gennom ni, felly ma' pawb yn meddwl bo ni yn Lloegr.”
Mae disgwyl i gyfres o fesurau gael eu llacio yn Lloegr ar 19 Gorffennaf.
Fel rhan o'r newidiadau tebygol, fe fydd y rheidrwydd cyfreithiol i wisgo mygydau yn cael ei godi.
'Dewis personol'
Er fod Haydn Jones yn teimlo y dylid cadw’r cyfyngiadau yng Nghymru mae’n credu mai dewis personol yw gwisgo masgiau.
“Dwi'n meddwl bydd rhaid i ni gadw'r cyfyngiadau achos ma' 'na ofn mawr tu allan gan y cyhoedd, felly fel busnes fydd rhaid i ni dwi'n meddwl cadw efo nhw am ychydig, yn enwedig y masgiau a phethau felly, a'r sgrin blastig o flaen y bar.
“Yn bersonol tu allan i gwaith fyswn i ddigon hapus i gael gwared ar y cyfyngiadau, ma' pawb bregus wedi cael eu brechu, a dwi'n meddwl bod hi'n amser i'r unigolyn ddewis rŵan.”
Fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei gymryd am lacio'r cyfyngiadau yn Lloegr ar 12 Gorffennaf.