Dyn o Gasnewydd wedi'i gyhuddo o ddifrodi mosg
Mae dyn o Gasnewydd wedi ei gyhuddo o ddifrod troseddol ar sail hil ar ôl taflu eitem at ffenest mosg yn y ddinas.
Cafodd dyn 43 oed ei arestio gan swyddogion ar ôl digwyddiad honedig ble cafodd mosg ei ddifrodi ar Stryd Shaftesbury am 07.00 ddydd Iau 1 Awst.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Hobrough: “Byddwn yn ymchwilio’n drylwyr i unrhyw drosedd honedig lle mae hiliaeth neu wahaniaethu yn ffactor.
“Bydd adroddiadau o'r natur yma yn peri pryder mawr i'n holl gymunedau; fy neges i chi yw ein bod ni yma i gynnig cefnogaeth a'ch cadw'n ddiogel.
“Bydd ein swyddogion ar batrôl i cynnig presenoldeb gweladwy yn ein cymunedau a byddwn yn parhau i fod mewn sgyrsiau rheolaidd gyda'r cyhoedd i gynnig cyngor ac ymateb i unrhyw bryderon.”
Llun: Faizan-e-Madina Newport