Medal efydd i Emma Finucane
08/08/2024
Medal efydd i Emma Finucane
Mae’r Gymraes Emma Finucane wedi ennill medal efydd yn ras y keirin yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.
Fe ddaeth Finucane yn y trydydd safle tu ôl i’r enillydd Ellesse Andrews o Seland Newydd a Hetty van de Wouw o’r Iseldiroedd a gurodd Finucane o drwch blewyn.
Mae’r keirin yn ras o chwe lap o amgylch y trac gyda’r tair gyntaf tu ôl i feic modur bach cyn i’r reidwyr gystadlu yn rhydd am weddill y ras.
Dyma ail fedal y gemau i Finucane ar ôl iddi ennill medal aur yn y tîm gwibio yn gynharach yn yr wythnos.
Fe fydd Finucane hefyd yn cystadlu yn y gwibio unigol i geisio am fedal arall.
Llun: X/TeamGB