Newyddion S4C

'Chwalu'r tabŵ': Taith gerdded o amgylch ardal yr Eisteddfod i helpu iechyd meddwl

Taith gerdded Meddwl

Roedd yr Eisteddfod ym Mhontypridd eleni yn gyfle i elusen blaenllaw drefnu taith gerdded o amgylch yr ardal i godi ymwybyddiaeth am yr angen i drafod iechyd meddwl.

Pwrpas y daith a drefnwyd gan elusen Meddwl, oedd i “fwynhau cwmni eraill ac i sgwrsio, i wrando ar siaradwyr gwadd, i ddysgu am hanes yr ardal hon ac i elwa o ymarfer corff ac awyr iach ac i gyfrannu at iechyd meddwl gwell.”

Yn rhan o’r daith oedd Ellis Lloyd-Jones, y cyflwynydd o Dreorci sy’n adnabyddus am ei fideos ar Tiktok.

Dywedodd fod y daith yn gyfle gwych i bobl weld Maes yr eisteddfod a thref Pontypridd.

“Y peth neis am bod lot o bobl yn dod o Gymru yw bod nhw yn mynd i’r Maes ac mae’n rhaid i nhw brofi beth sydd yma yn y cymoedd," meddai.

“So ni di mynd rownd Pontypridd, dros y bont very famous draw fan hyn, a wedyn mynd lawr tuag at yr orsedd, y creigiau orsedd ar ben y mynydd.

“A wedyn aethon ni i Bunch of Grapes a jyst trek bach neis just i bobl ddod i adnabod yr ardal, a jyst dod i nabod ein gilydd a siarad am bethau fel iechyd meddwl a pethe sy’n poeni ni.

“Ie, teimlo’n gyffyrddus ac yn sâff i siarad am sut ni’n teimlo just i gael gwared o’r tabŵ yna.”

Image
Taith gerdded

'Cyfle i siarad'

Fe drefnwyd sawl taith gerdded ar wahanol achlysuron yn y gorffennol gan Meddwl, ac mae Ellis yn credu’n gryf mewn pwysigrwydd teithiau o'r fath.

“Mae ‘na dal tipyn bach o tabw dyddiau ‘ma i bobl siarad am iechyd meddwl, so mae’n neis i nhw fod fel, ‘drycha, dyma be ni’n mynd i neud, sdim angen siarad am iechyd meddwl, ond ni’n mynd i rhoi’r safle i chi i siarad am beth bynnag chi ishe’ dweud," meddai.

“Ma’ fe’n safe space ac mae ‘na bobl yna sydd yn broffesiynol sy’n gwybod sut i siarad amdano’r peth, a gallu rhoi cymorth. 

“Mae nhw ddim yn like, lifesaver neu yn like unrhyw like magicians neu unrhywbeth fel ‘na, ond maen nhw’n gallu rhoi y cymorth a dangos i chi ble allech chi fynd o fan hyn.”

Credai Ellis bod cysur mewn gallu rhannu gofidion a bod yn agored am iechyd meddwl.

“Falle mae pobl yn gallu uniaethu ond fi’n teimlo weithie, fi methu siarad am pethe gyda pobl sydd yn agos ato fi, ond mae’n neis i siarad gyda rhywun ti erioed wedi cwrdd â.

“Falle bydde ti byth yn cwrdd a ‘to, jyst i ‘weud, dyma sut fi’n teimlo, dyma rhywbeth fi’n mynd trwyddo, a falle uniaethu gyda nhw, a wedyn mynd rownd y maes ‘da nhw!”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.