Newyddion S4C

Mark Drakeford yn ôl fel Ysgrifennydd Iechyd yng nghabinet Eluned Morgan

08/08/2024

Mark Drakeford yn ôl fel Ysgrifennydd Iechyd yng nghabinet Eluned Morgan

Bum mis ers ei gyfarfod cabinet olaf fel Prif Weinidog Cymru mae Mark Drakeford nôl yn y Llywodraeth dros dro o leiaf.

Mae'n dychwelyd i swydd gyfarwydd.

Dyma fe ar ymweliad ag ysbyty tra'n Weinidog Iechyd ddegawd yn ôl.

Mae llawer wedi digwydd ers hynny gan gynnwys y pandemig a'r nifer sy'n aros am driniaeth yng Nghymru ar ei uchaf erioed.

Mae heriau eraill hefyd gan gynnwys y pwysau ar staff y Gwasanaeth Iechyd, a thâl.

"Ni ishe cael mwy o nyrsys a pobl yn dod mewn i'r proffesiwn.

"Mae nyrsys wedi cael digon.

"Mae'n rhaid i ni gael sgwrs am corridor care neu ddim gofal yn y coridor.

"Mae'n rhaid i ni siarad am y career structure i nyrsys."

Heddiw hefyd, cadarnhad swyddogol bod gan Gymru ei Dirprwy Brif Weinidog cyntaf ers i arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Ieuan Wyn Jones ymgymryd â'r swydd yn 2007.

Ond wrth ddechrau ar ei rôl newydd, roedd Huw Irranca-Davies yn deall taw penodiad Mark Drakeford oedd y stori fawr heddiw.

"It gives that stability.

"A really sure pair of hands on that brief.

"There is a desire from the public to see stable, grown-up government that is acting on their behalf and doing the right thing.

"I think Mark brings that."

Ond mae gan y gwrthbleidiau eu amheuon.

"Mae'r Llywodraeth wedi dweud bod hwn yn apwyntiad dros dro.

"Mae hwn yn meddwl mai rhyw fath o caretaker yw Mark Drakeford.

"Bydd e methu gwneud y pethau hirdymor mae'n rhaid i ni wneud i wella'r NHS yng Nghymru."

"Mae cael Mark Drakeford yn ôl am dymor byr yn unig yn bizarre.

"Mae'n dangos bod ansefydlogrwydd am barhau yn y Gwasanaeth Iechyd.

"Does dim cysondeb am fod yno.

"Dyna'r un peth mae'r Gwasanaeth Iechyd eisiau'n fwy nag erioed.

"Y cysondeb a sicrwydd yna er mwyn adeiladu a datblygu ar gyfer y dyfodol."

Bydd Eluned Morgan yn cadw'r cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg.

Am y tro, beth bynnag.

Mae disgwyl adrefniant pellach o'i chabinet fis nesa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.