Newyddion S4C

Dirgelwch y Fedal Ddrama: Galw am 'fwy o wybodaeth' am atal y seremoni

Dirgelwch y Fedal Ddrama: Galw am 'fwy o wybodaeth' am atal y seremoni

Mae atal seremoni'r Fedal Ddrama eleni heb unrhyw esboniad wedi “esgor ar filiynau o syniadau gwallgo’ a gwirion” meddai aelod o bwyllgor llên yr Eisteddfod.

Daw sylwadau Bethan Mair wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol fethu â chynnig esboniad am ei phenderfyniad i ddiddymu'r gystadleuaeth ar ddiwrnod y seremoni wobrwyo.

Roedd y Fedal Ddrama i fod i gael ei dyfarnu yn y Pafiliwn am 16.00 ond cyhoeddodd yr Eisteddfod o’r llwyfan bryd hynny na fyddai'r seremoni yn cael ei chynnal.

“Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r Fedal Ddrama, daethpwyd i’r penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni,” medden nhw.

“Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."

Ni wnaeth yr Eisteddfod ymhelaethu ar y rhesymau y tu cefn i'r penderfyniad.

'Ffantasiol'

Dywedodd Bethan Mair wrth Radio Cymru bod y fath beth yn “hollol ddigynsail” yn hanes yr Eisteddfod.

“Dw i wedi bod yn mynd drwy’r parameters - tasai rhywun ddim yn deilwng fe fyddech chi’n cael senario nos Fawrth, gyda’r seremoni yn bwrw ymlaen,” meddai.

“Tasai’r enillydd trwy ryw anffawd yn sâl neu hyd yn oed wedi marw fe fyddech chi’n cael cadair ddu.

“Mae beth sydd wedi digwydd heddi, lle maen nhw nid yn unig heb fwrw ymlaen, ond wedi diddymu'r gystadleuaeth  - fydd na ddim son am y Fedal Ddrama yn y cyfansoddiadau hyd yn oed.

“Felly mae’r Eisteddfod yn gwybod fod hyn yn yr arfaeth ers wythnosau os nad mis neu ddau.

“Mae dweud cyn lleied dwi’n meddwl yn mynd i esgor ar filiynau o syniadau gwallgo’ a gwirion.

“Dwi’n credu dylen ni fod yn cael mwy o wybodaeth.

“Mae’r Eisteddfod yn perthyn i ni gyd. Dwi ar Gyngor yr Eisteddfod a’n aelod o Bwyllgor Llên Ganolog yr Eisteddfod. Do’n i’n gwybod dim am hyn.

“Mae rhai o’r damcaniaethau dw i wedi eu clywed mor ffantasiol dydyn nhw ddim gwerth eu hadrodd ar y radio.”

Mae’r gystadleuaeth yn gwobrwyo cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd, a’r beirniaid eleni oedd Mared Swain, Geinor Styles a Richard Lynch.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.