Pryder dros ddyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin
Pryder dros ddyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin
Mae miloedd yn heidio i Goed y Brenin bob blwyddyn i reidio'r llethrau.
Ond, lle mae cyffro, bellach mae ansicrwydd a mwy o bryder heddiw am ddyfodoly ganolfan ymwelwyr.
Yn ôl Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru mae arian cyhoeddus yn eithriadol o dynn.
Wnaethon nhw e-bostio eu staff yr wythnos yma i roi gwybod eu cynlluniau i leihau y gyllideb staff erbyn Ebrill 2025.
Y bwriad ydy cau y ganolfan ymwelwyr yma, sef Coed y Brenin, ynghyd a chanolfannau Ynyslas a Nant yr Arian ger Aberystwyth.
Mae staff y canolfannau hynny'n wynebu cael eu diswyddo.
Ond mae un grŵp cymunedol yma'n gobeithio rhedeg y ganolfan ac wedi cyfarfod â swyddogion yma heddiw.
"Bydd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin yn cau ym mis Hydref.
"Dyna'r proposal sy wedi cael ei rhoi. Oherwydd y cyfrifoldeb cyfreithiol ynglŷn â'r lle. Ond hefyd, roedd sôn am gynnal a chadw'r llwybrau.
"Byddai hynny ddim yn cael ei wneud yn y modd mae wedi cael ei wneud.
"Mi fyddai hyn yn gallu cymryd rhai blynyddoedd.
"Bydd yr economi lleol yn dioddef yn syth. Be bynnag sy'n mynd i gau, mae'n rhan o glytwaith o be sydd ar gael.
"Bydd un peth yn dylanwadu ar y llall. Mae'r siop beiciau yn neud busnes da ar hyn o bryd.
"Os na fydd pobl yn dod yma bydd y siop beiciau'n dioddef."
Ond gyda phenderfyniad terfynol ddim yn cael ei wneud tan fis Medi, mae rhai yn yr ardal leol yn meddwl y bydd cau y ganolfan yn cael effaith negyddol ar ymwelwyr y dref gyfagos.
"'Swn i'n deud bydd o'n cael effaith ond wnawn ni weld. Mae pobl yn dod i aros yn yr ardal a mynd ar y beics.
"Ni angen y safle yna i ddenu pobl i'r bike tracks a phob dim arall.
"Mae'n llwyddiannus iawn. Gobeithio wneith rhywun cymryd drosodd yn y dyfodol.
"Am rŵan, mae'n biti ond gobeithio wneith bobl dal i ddod i reidio'r tracks a dod i'r dref wedyn."
Dywedodd CNC fod ymgynghoriad gydag undebau wedi dechrau ond bydd y cynnig yn tynnu 265 o swyddi o'i strwythur.
Y bwriad yw ail-ffocysu adnoddau ar y gweithgareddau fydd â'r effaith fwyaf ar natur, yr hinsawdd a lleihau llygredd.
Maen nhw'n gobeithio atal diswyddiadau gymaint ag y gallant ac yn pwysleisio y byddai llwybrau mynediad meysydd parcio a thai bach yn parhau ar y safleoedd.
Dyfodol ansicr, felly, i'r ganolfan yma ger Dolgellau ynghyd a dwy ganolfan arall.
Ac ymgyrchwyr lleol yn gobeithio cadw'r ganolfan hon am flynyddoedd eto i ddod.