Gobeithion Elfyn Evans yn Rali Ffindir wedi dod i ben ar ôl damwain
Fe wnaeth ymdrechion y Cymro, Elfyn Evans, yn Rali Ffindir ddod i ben yn dilyn damwain ar ddiwrnod olaf y cystadlu ddydd Sul.
Fe aeth car Toyota Yaris y Cymro fynd oddi ar y ffordd ar gornel cyntaf cymal 19 ddydd Sul.
Roedd gobeithion Evans ar chwâl erbyn hynny beth bynnag ar ôl iddo golli dros chwe munud ar un o gymalau ddydd Sadwrn pan dorrodd siafft yrru’r car.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1820023843513110793
Sébastien Ogier o Ffrainc oedd yn fuddugol ar ôl i’r ffefryn lleol Kalle Rovanperä gael damwain ar yr un cymal ag Evans fore dydd Sul pan oedd yn arwain y rali.
Mae'r canlyniad yn ergyd i obeithion Evans ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd, wrth iddo fethu ag ychwanegu pwyntiau at ei gyfanswm yn y bencampwriaeth.
Roedd wedi cwympo i’r trydydd safle ar ôl dod yn bumed yn Rali Latfia bythefnos yn ôl, a bellach mae wedi disgyn i'r pedwerydd safle.
Llun: X/Elfyn Evans