Newyddion S4C

'Mae mor bwysig fod Josh wedi cael gradd yn dilyn ei farwolaeth'

02/08/2024

'Mae mor bwysig fod Josh wedi cael gradd yn dilyn ei farwolaeth'

Roedd hi "mor bwysig" fod dyn ifanc o Gaernarfon wedi derbyn gradd er anrhydedd yn dilyn ei farwolaeth, yn ôl un o'i ffrindiau pennaf. 

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn 19 oed mewn gwrthdrawiad ger Caeathro yng Ngwynedd ym mis Mehefin y llynedd. 

Roedd yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Derbyniodd Josh radd BSc Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon gan Brifysgol Met Caerdydd mewn seremoni raddio yn y brifddinas ym mis Gorffennaf. 

Fe wnaeth chwaer Josh, Abigail Lloyd Roberts, dderbyn y radd ar ei ran.

Image
Josh Roberts
Joshua Lloyd Roberts

Roedd Josh yn un o ffrindiau pennaf Huw Griffith, gyda'r ddau yn byw gyda'i gilydd ar gampws Cyncoed y brifysgol yn y flwyddyn gyntaf cyn byw mewn tŷ gyda'i gilydd yn yr ail flwyddyn, a chynllunio i wneud yr un peth yn y drydedd flwyddyn. 

Dywedodd Huw wrth Newyddion S4C: "Oedd 'na rywun oedd yn gweithio i'r brifysgol 'di rhybuddio ni cynt bod Josh am gael ei gydnabod yn y seremoni. 

"Dwi'n meddwl bo' ni fel criw ffrindia ella wedi underestimatio faint o neis fysa hwnna.

"Ond na, chwara teg i Abi, oedd o mor ddewr o hi i fynd fyny fel 'na. Dwi'n meddwl bod o'n foment mor neis i hi, ac i'w theulu hi i gyd. 

"Oedd o mor neis gweld nhw i gyd yna a dwi'n siwr bod Josh yn falch iawn ohoni hi."

Image
Huw
Huw Griffith

Er yn anodd, roedd hi'n bwysig cymryd yr amser i feddwl a chofio am Josh ar ddiwrnod y graddio yn ôl Huw.  

"Yn amlwg, mi oedd o'n chwara ar meddylia ni gyd yn ystod y dydd 'lly, oedda chdi methu rili anghofio amdana fo ond dwi'n meddwl oedd o'n bwysig hefyd bo' ni ddim yn anghofio amdana fo," meddai.

"Oedd o'n rhan mawr o fy mhrofiad i yn y brifysgol 'lly ag obviously criw ffrindia ni 'fyd so oedd o'n reit anodd ar adega i drio rheoli hynna ond oedd o'n ddiwrnod neis."

Image
Ffrindiau Josh gyda'i chwaer, Abi, ei frawd, Roni, a'i fam, Melanie.
Ffrindiau Josh gyda'i chwaer, Abi, ei frawd, Roni, a'i fam, Melanie.

Mae Huw yn teimlo ei bod hi'n bwysig fod Josh wedi cael ei gydnabod fel rhywun wnaeth raddio hefyd.

"Mae o'n hollol hollol bwysig bod o'n cael y cyfle 'na," meddai.

"Oedd pob un stiwdant oedd yna yn haeddu cael y cyfla i fynd fyny ar y llwyfan a doedd o ddim gwahanol.

"Oedd o wedi gweithio'n galad a 100% yn haeddu fo. Mae o jyst yn siom ag yn drist ofnadwy bod o methu bod yna efo ni mewn person 'lly."

Image
Abigail Lloyd Roberts yn derbyn y radd ar ran Josh.
Chwaer Josh, Abigail Lloyd Roberts yn derbyn y radd ar ei ran.

Er y tristwch a'r hiraeth, mae Josh yn parhau yn flaenllaw ym mywydau Huw a'i ffrindiau.

"Mae o yma efo ni o hyd," meddai.

"Ma' 'na lot o betha dwi'n cofio amdana fo, yn enwedig seremoni graddio, o'n i'n meddwl am y dyddia cynnar 'na yn Cyncoed pan oeddan ni'n dechra' dod i 'nabod ein gilydd a wedyn natho ni jyst mynd yn ffrindia yn syth.

"Dwi jyst yn cofio'r petha' bach a neud y petha' bach efo fo, fatha cwcio yn gegin, byw efo fo, so ia, ma' 'na lot o jyst atgofion bach a neis.

"Dwi jyst yn falch bod o wedi cael y cyfle i raddio fatha natho ni gyd neud hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.