Newyddion S4C

Syr Bryn Terfel i berfformio mewn cyngerdd i ddathlu pen-blwydd Prifysgol Bangor

01/08/2024
Bryn Terfel

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cyngerdd gyda Syr Bryn Terfel a gwesteion arbennig i nodi dathliadau 140 y brifysgol.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal Nos Wener 1 Tachwedd yn Pontio, yn y theatr a enwyd ar ôl y bas-bariton byd-enwog, Theatr Bryn Terfel.

Nia Roberts, sy’n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, fydd yn cynnal y noson, a fydd yn cynnwys darnau o waith Syr Bryn Terfel gyda Robat Arwyn, sef Atgof o'r Sêr, ymysg ffefrynnau eraill. 

Bydd y cyngerdd yn arddangos talent unigolion o Brifysgol Bangor a'r ardal leol. 

Yn ymuno â Syr Bryn ar y llwyfan bydd Meinir Wyn Roberts, sy’n wreiddiol o Gaernarfon, a oedd yn Unawdydd Gwadd ar daith Songs and Arias Syr Bryn Terfel, y gantores a’r gyfansoddwraig Efa Goodman, sy'n ymddangos ar albwm diweddaraf Syr Bryn ar gyfer Deutsche Grammophon, Sea Songs, a Mali Elwy, sy’n un o enillwyr diweddar Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.

Lleisiau lleol

Bydd Dr Iwan Llywelyn Jones, sy’n bianydd adnabyddus ac yn uwch aelod o Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio’r Brifysgol hefyd yn cymryd rhan yn y cyngerdd, ochr yn ochr â chorau lleol Côr Dre a Chôr JMJ, sy’n gôr o fyfyrwyr y brifysgol, dan arweiniad Sian Wheway, sy’n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Dywedodd Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio, “Mae’n bleser rhoi’r rhaglen hon at ei gilydd gyda Syr Bryn a’i gyd-artistiaid i nodi 140 mlynedd ers sefydlu Prifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at arddangos y dalent aruthrol ac, mewn rhai achosion, byd-enwog, sy’n cael ei meithrin yma ym Mangor a’r cyffiniau.”

Ychwanegodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac am arwain ar ymgysylltu dinesig,

“Mae’r cyngerdd hwn yn nodi un o uchafbwyntiau blwyddyn arbennig i Brifysgol Bangor wrth i ni ddathlu’r 140. Rydym wrth ein bodd fod gan Syr Bryn amser yn ei amserlen orlawn i ddod adref i ogledd Cymru i berfformio ynghyd â'i westeion arbennig yn Theatr Bryn Terfel. 

"Mae’n bleser hefyd cael croesawu corau lleol i Pontio am noson i’w chofio fis Tachwedd eleni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.