Carcharu dyn o Wynedd am dagu a stelcio ei gyn-bartner
Mae dyn 28 oed o Wynedd oedd wedi tagu a stelcio ei gyn-bartner yn fwriadol wedi ei garcharu.
Fe wnaeth Dylan Parry Jones, o Crystal House, Y Bermo, fygwth ei “dychryn” hi, gan sefyll y tu allan i gartref ffrind a dweud wrtho y byddai’n lladd ei hun os na fyddai hi'n dychwelyd ato.
Roedd hefyd wedi ei ffonio’n ddi-baid a gwneud bygythiadau treisgar tuag ati hi a’i theulu.
Fe ymddangosodd Jones yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener gan fod Llys y Goron Caernarfon yn cael ei atgyweirio ar y pryd.
Cafodd ei garcharu am gyfanswm o 22 mis a chafodd orchymyn atal am dair blynedd.
Ffonio'r heddlu
Yn dilyn digwyddiad ar 3 Mawrth, ffoniodd ffrind y dioddefwr yr heddlu gan adrodd bod Jones wedi ymosod yn dreisgar ar ei gyn-gymar, gan ei chydio wrth ei gwddw, ei thynnu dros y soffa a chicio ei choesau, cyn difrodi ei heiddo.
Cysylltodd y ddioddefwraig hefo'r heddlu ei hun ychydig wythnosau'n ddiweddarach, gan ddatgelu ymddygiad ymosodol a bygythiol Jones.
Wrth iddi eistedd gyda swyddogion i adrodd hanes y troseddau, galwodd Jones y ddioddefwraig dro ar ôl tro, gan ei sarhau a dweud wrthi y byddai yn ei "dychryn" yn dilyn ei chyswllt gyda'r heddlu.
Ddyddiau'n ddiweddarach, gwnaeth y dioddefwr adroddiad pellach fod Jones yn sefyll y tu allan i gartref ei ffrind tra roedd hi yno.
Cafodd Jones ei arestio gan swyddogion.
Tra yn y ddalfa, fe wnaeth o ddifrodi'r gell ac ymosod ar dri swyddog yr heddlu.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Stephen Jones: “’Roedd ymddygiad ffyrnig, ymosodol a bygythiol Jones wedi cael effaith ddinistriol ar ei ddioddefwr.
“’Dwi’n gobeithio bod dedfryd heddiw yn caniatáu iddi symud ymlaen, gan wybod nad ydy o’n fygythiad i’w diogelwch rhagor.
“Mae’r dioddefwr wedi bod yn ddewr iawn drwy riportio ymddygiad Jones i ni, ac am helpu’r ymchwiliad o dan amgylchiadau heriol iawn.
“Os ‘da chi neu os ‘da chi wedi bod yn ddioddefwr stelcian neu gam-drin domestig, riportiwch i ni ar-lein neu drwy ffonio 101. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser."