
O ddarllen y penawdau i greu penawdau: Tranc gyrfa ddisglair
O ddarllen y penawdau i greu penawdau: Tranc gyrfa ddisglair
Yn un o wynebau mwyaf adnabyddus ar deledu, arweiniodd Huw Edwards ddarllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol mawr cyn ei gwymp cyhoeddus wrth iddo gyfaddef iddo wneud delweddau anweddus o blant.
Roedd yn gyflwynydd newyddion y BBC gyda'r cyflog uchaf ac fe wnaeth gyflwyno rhaglen News At Ten am ddegawdau, ond roedd ei ymddagnosiad yn y llys ddydd Mercher i bledio'n euog yn nodi diwedd ar yrfa ddisglair.
Roedd Edwards yn cael ei ystyried fel pâr diogel o ddwylo i arwain y wlad trwy ddigwyddiadau mawr dros y blynyddoedd.
Ond mae bellach yn y penawdau ei hun wrth iddo gyfaddef bod ganddo 41 o ddelweddau anweddus o blant ar WhatsApp, gan gynnwys saith o'r math mwyaf difrifol.
Bu’r darlledwr 62 oed yn arwain y rhaglen newyddion nosweithiol am yr 20 mlynedd diwethaf, gan ennill enw fel darlledwr uchel ei barch, cyn iddo ymddiswyddo o’r gorfforaeth ym mis Ebrill.
Ddydd Mercher, fe blediodd yn euog yn Llys Ynadon Westminster i wneud delweddau anweddus o blant rhwng Rhagfyr 2020 ac Awst 2021.
Dyddiau cynnar
Wedi’i eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i fagu yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, ymunodd Edwards â’r BBC ar hyfforddiant ym 1984.
Yn ystod ei bedwar degawd yn y gorfforaeth, fe’i dewiswyd dro ar ôl tro i arwain darllediadau hanesyddol gan gynnwys angladd y diweddar Frenhines yn 2022 ac yn fwyaf diweddar coroni’r Brenin ym mis Mai 2023.
Cyhoeddodd Edwards hefyd farwolaeth y diweddar Frenhines ar y BBC ym mis Medi 2022.
Roedd yn ganolog i ddarllediadau byw etholiadol, Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn 2012, y Jiwbilî Platinwm yn 2022, priodas Dug a Duges Caergrawnt ar y pryd yn 2011, priodas Dug a Duges Sussex yn 2018, ac angladd Dug Caeredin yn 2021.
Edwards hefyd oedd llais y BBC yng Ngŵyl y Cofio.

Pan oedd y BBC yn chwilio am rywun i gymryd awenau darllediadau etholiadol gan David Dimbleby yn 2019, Huw Edwards gafodd ei ddewis.
Fo hefyd oedd darllenydd newyddion y gorfforaeth ar y cyflog uchaf, gyda chyflog rhwng £475,000 a £479,999 ar gyfer y flwyddyn 2023/24, cyn iddo ymddiswyddo, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y BBC.
Dywedodd Huw Edwards yn 2021 ei fod yn ystyried ei ddyfodol yn cyflwyno News At Ten wrth iddo nesáu at ei ben-blwydd yn 60 oed.
Mae’r darlledwr, a fynychodd Ysgol Ramadeg Llanelli ac a raddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Caerdydd, yn Athro er Anrhydedd yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant ei hen brifysgol.
Gwobrau
Ym mis Mehefin 2023, enillodd Edwards yr anrhydedd am gyflwyno'r digwyddiad byw gorau yng Ngwobrau Tric, am ddarllediad o angladd y diweddar Frenhines, ac ym mis Chwefror derbyniodd wobr cydnabyddiaeth arbennig y Broadcast Awards.
Mae Edwards wedi'i restru fel is-lywydd ar wefan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi ac wedi ymddangos ar Songs Of Praise. Mae hefyd wedi gwneud rhaglenni dogfen ar gyfer y BBC gan gynnwys Wales: Who Do We Think We Are? a sôn am ei iselder ar raglen S4C Huw Edwards yn 60.
Mewn rhaglen ddogfen yn 2021, datgelodd Edwards ei fod wedi cael pyliau o iselder dros y ddau ddegawd diwethaf sydd wedi ei lethu.
“Fel pawb sy’n dioddef o iselder, dydych chi ddim yn cael un pwl ohono. Mae'n mynd a dod," meddai.
“I mi, fe ddechreuodd o tua 2002 dwi’n meddwl. Es i lawr yn weddol gyflym a doeddwn i ddim yn gallu ei ddeall.” Wrth siarad ar bodlediad a gynhaliwyd gan Jane Garvey a Fi Glover, Fortunately… With Fi A Jane, dywedodd Edwards iddo benderfynu rhannu’n gyhoeddus fod ganddo iselder gan ei fod yn teimlo ei fod yn “rhagrith llwyr” i gefnogi sefydliadau fel y Shawmind Foundation neu Mind heb egluro pam.
“Roeddwn i hefyd yn teimlo y gallai fod yn ddefnyddiol i bobl pe bawn i’n agored am y peth a dweud, ‘Gallwch chi wneud swydd a gallwch chi fod yn llwyddiannus’, boed hynny’n darllen ychydig o autocue neu’n gwneud beth bynnag ydyw… tra hefyd yn delio â materion fel yna,” meddai wrth y podlediad.