Newyddion S4C

Medal arian i'r Cymro Matt Richards yn y Gemau Olympaidd

29/07/2024
Matt Richards

Mae'r Cymro Matt Richards wedi ennill medal arian yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.  

Enillodd y nofiwr yn y ras 200m dull rhydd nos Lun.

Daeth Richards o fewn trwch blewyn i gipio'r fedal aur, gan ddod yn ail agos iawn i David Popovici o Romania. 

Cyn y Gemau Olympaidd, Matt Richards oedd y dyn cyflymaf yn y byd dros 200 metr eleni. 

Wedi iddo ennill Pencampwriaeth y Byd y llynedd hefyd, roedd e'n un o obeithion cryfaf y Cymry am fedal.

Llun: Wikimedia Commons

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.