Trywanu Southport: Arestio dyn sy’n wreiddiol o Gaerdydd ar ôl i ddau blentyn farw

29/07/2024

Trywanu Southport: Arestio dyn sy’n wreiddiol o Gaerdydd ar ôl i ddau blentyn farw

Mae dyn 17 oed sy’n wreiddiol o Gaerdydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, yn dilyn achos o drywanu yn Southport a laddodd ddau o blant.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy, bod naw yn rhagor o blant wedi eu hanafu a bod chwech ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Ychwanegodd bod dau oedolyn hefyd mewn cyflwr difrifol, a'u bod nhw wedi eu hanafu tra'n ceisio gwarchod y plant.  

Dywedodd y prif gwnstabl ei bod hi'n ymddangos bod y plant mewn digwyddiad yn ymwneud â thema'r gantores Taylor Swift mewn ysgol ddawns, pan aeth yr ymosodwr i mewn i'r adeilad.  

Yn ôl yr heddlu, dyw hi ddim yn ymddangos mai terfysgaeth oedd wrth wraidd yr ymosodiad. 

Mae'r llanc sydd yn y ddalfa yn byw ym mhentref Banks ger Southport, yn ôl yr heddlu, ond yn hannu o Gaerdydd. 

'Sioc' 

Wrth ymateb i'r datblygiadau, dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer nos Lun bod yr hyn ddigwyddodd yn ofnadwy iawn: "Mae pawb mewn sioc gan yr hyn y maen nhw wedi ei weld a'i glywed. 

“Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran pawb, wrth ddweud bod ein meddyliau a'n cymdymdeimlad gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, eu ffrindiau a gyda'r gymuned yn ehangach. " 

“Mae'n amhosibl amgyffred yr hyn mae'n nhw'n ei deimlo ar hyn o bryd.” 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Hart Street, stryd sydd â dwy res o dai yn Southport am 11.48am fore Llun.  

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Orllewin Lloegr bod parafeddygon wedi trin wyth claf sydd ag anafiadau ar ôl cael eu trywanu.

Cafodd y dioddefwyr eu cludo i Ysbyty Plant Alder Hey, Ysbyty Athrofaol Aintree ac Ysbyty Southport a Formby.

Dywedodd un llygaid-dyst nad oedd eisiau cael ei enwi ei fod wedi gweld dynes yn sgrechian: “Mae fy merch wedi cael ei thrywanu."

“Fe wnes i helpu i’w chael hi’n ôl i fyny i le roedd ceir yr heddlu a’r ambiwlansys," meddai.

“Doedd hi ddim yn edrych yn wych ond roeddwn i’n canolbwyntio ar ei chael hi yn ôl i fyny’r stryd i gael cymorth."

Yn ôl Bare Varathan, 35, sy'n berchennog siop ar Hart Street, cafodd ei alw ar frys gan aelod o staff toc cyn hanner dydd. 

Dywedodd: “Mi welais saith i ddeg plentyn tu allan y feithrinfa. Roedden nhw wedi eu hanafu ac yn gwaedu. 

"Roedden nhw yng nghanol y ffordd yn rhedeg o'r feithrinfa 

“Roedden nhw i gyd tua deg oed. Roedd gan un ohonyn nhw anafiadau difrifol."

 


 

 

 

Image


 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.