Rhybudd am law trwm a mellt a tharanau i rannau o Gymru
Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd ar gyfer glaw trwm a mellt a tharanau i rannau o Gymru cyn diwedd yr wythnos.
Bydd y rhybudd tywydd yn effeithio ar rannau o ddwyrain y wlad, gan ymestyn o’r gogledd i’r de, brynhawn ddydd Iau.
Daw wrth i Gymru fwynhau cyfnod o dywydd hafaidd, clir gyda disgwyl i'r tymheredd gyrraedd dros 20 gradd Celsius ddyddiau Llun, Mawrth a Mercher.
“Mae cawodydd trwm a stormydd mellt a tharanau yn debygol ar draws rhannau o Gymru a Lloegr brynhawn Iau,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
“Mae union leoliad y cawodydd yn dal yn ansicr a bydd rhai lleoedd yn aros yn sych drwy'r dydd.
“Fodd bynnag, lle mae'r cawodydd yn digwydd gallent fod yn drwm, gyda pheryg hefyd y bydd mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion.
“Gallai'r cawodydd trymaf arwain at 20-30 mm o law o fewn awr, gyda chymaint â 70-90 mm lle mae nifer o gawodydd yn syrthio yn yr un lleoliad dros gyfnod o 24 awr.”
Ar fore Llun roedd disgwyl i’r rhybudd effeithio ar y siroedd canlynol ddydd Iau:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam