Dau ddyn wedi marw ar ôl i awyren fechan blymio i'r ddaear yn Sir Efrog
Mae dau ddyn yn eu 20au wedi marw wedi i awyren fechan blymio i mewn i gae yng Ngogledd Sir Efrog fore dydd Sul.
Y gred yw mai peilot oedd un o’r dynion, gyda'r dyn arall yn teithio yn yr awyren ar y pryd, medd Heddlu Gogledd Sir Efrog.
Roedd gan yr awyren ddwy sedd yn unig, a dim ond dau o bobl oedd yn teithio ynddi ar y pryd medd swyddogion.
Mae teulu'r dynion wedi cael gwybod am eu marwolaeth, ac mae'r broses o adnabod y dynion yn swyddogol ar waith.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad mewn “ardal wledig” ym mhentref Thorganby, ger Selby, meddai’r llu.
Cafodd y gwasanaethau brys wybod am y digwyddiad am 09.50 ddydd Sul.
Mewn datganiad, dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Sir Efrog fod “nifer o’n hadnoddau wedi ymateb i’r digwyddiad.”
Mae Heddlu Gogledd Sir Efrog wedi dweud nad oes unrhyw un anrall wedi eu hanafu yn y digwyddiad.
Llun: Nigel Roddis/PA Wire