Siom i'r Cymro Josh Tarling yn y Gemau Olympaidd
Siom i'r Cymro Josh Tarling yn y Gemau Olympaidd
Mae’r seiclwr Joshua Tarling o Aberaeron wedi methu hawlio medal yn y ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd ym Mharis brynhawn Sadwrn.
Pedwerydd oedd y Cymro yn y pen draw, wedi iddo ddioddef anffawd ar ddechrau'r ras.
Roedd yn rhaid iddo newid ei feic o fewn tua pum munud yn unig o gychwyn yn y ras, wedi iddo gael twll i’w deiar blaen.
Fe gollodd o leiaf 15 eiliad o ganlyniad i hyn, ond fe gafodd ei ganmol am “adennill ei rythm yn gyflym iawn.”
Roedd yn 3.67 eiliad yn unig y tu ôl i Wout van Aert o Wlad Belg erbyn iddo seiclo 13km.
Remco Evenepoel ddaeth yn fuddugol yn y pen draw, ac roedd y dyn o Wlad Belg yn ei ddagrau ar y diwedd.
Filippo Ganna o'r Eidal gafodd y fedal arian, gyda Wout van Aert o Wlad Belg yn hawlio'r fedal efydd.
On nid yw gobaith y dyn 20 oed o ennil medal ar ben gan y bydd yn cystadlu yn y ras ffordd mewn wythnos, ar ddydd Sadwrn, 3 Awst.