Newyddion S4C

'Aberaeron i gyd tu ôl iddo': Josh Tarling yn paratoi i gystadlu yn ei Gemau Olympaidd cyntaf

27/07/2024
Josh Tarling yn ymweld gyda Chlwb Rasio Gorllewin Cymru yn Aberaeron

Ddydd Sadwrn fe fydd y seicliwr Josh Tarling yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf - ac mae ei ardal enedigol Aberaeron yn barod i floeddio'u cefnogaeth.

Yn 20 oed fe fydd Tarling yn cystadlu yng nghystadleuaeth ras yn erbyn y cloc nos Sadwrn, gyda disgwyl iddo ddechrau ei ras am tua 16:00.

Dros yr wythnosau diwethaf mae siopau a thafarndai Aberaeron wedi bod yn rhoi lluniau ohono yn eu ffenestri i ddangos eu cefnogaeth iddo.

Mae un sydd yn agos iawn iddo wedi dweud wrth Newyddion S4C y bydd yn "anhygoel" ei weld yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd.

Ers 10 mlynedd mae Nia Richards o Giliau Aeron yn Aberaeron wedi bod yn rhan o Glwb Rasio Gorllewin Cymru, a gafodd ei sefydlu gan rieni Josh Tarling, Mike a Dawn.

“Dechreuodd y clwb yn 2012 yn sgil Gemau Olympaidd Llundain efo rhieni Josh, ac fe es i fel rhiant gyda phlant a carion ni mlaen i fynd, mynd i rasys gyda nhw," meddai.

“Pedair blynedd wedyn nesi ddechre fel hyfforddwraig a helpu mas.

“Ma’r ferch wedi bod yn seiclo gyda Josh a dwi’n agos gyda’i fam, a dwi wir yn teimlo fel bod fi’n ail fam iddo fe."

Image
Josh Tarling
Josh Tarling (canol) yn cystadlu pan yn ifanc. Llun: Nia Richards

'Traed ar y ddaear'

Er mwyn cystadlu roedd Josh yn gorfod teithio i'r Felodrom Genedlaethol yng Nghasnewydd.

A Nia oedd yn mynd â Josh i'r felodrom ar adegau er mwyn cystadlu pan oedd yn iau.

“Dwi wedi bod yn ei dreifio lawr i’r velodrome yng Nghasnewydd er mwyn iddo gystadlu.

“Ma fe’n berson mor cyfeillgar a hawddgar, mae ei draed e’n sownd i’r ddaear achos ma fe wastod yn edrych mas am bobl.

“Ma fe’n amazing ei weld nawr, anodd rhoi e mewn geiriau faint mae’n meddwl i weld e’n mynd i’r Gemau Olympaidd ym Mharis."

Image
Josh Tarling
Josh Tarling yn ymweld â Chlwb Rasio Gorllewin Cymru. Llun: Nia Richards

Wrth i amser Josh i gystadlu agosau, mae Nia Richards yn dweud bod ei rieni yn nerfus iawn.

“Ma group chat gyda fi gyda’i rieni fe, o’n ni’n siarad yndo fe pwy ddiwrnod a ma la not o nerfusrwydd.

“Ma nhw’n meddwl bod Josh yn seiclo tua 17:30 felly ma fe’n amser hir iddyn nhw aros, bydden nhw ar eu pine medden nhw."

Mae tafarndai a siopau yn Aberaeron wedi bod yn dangos eu cefnogaeth i'r bachgen lleol trwy ddangos lluniau ohono yn eu ffenestri.

Image
Siopau Aberaeron
Un o nifer o siopau yn Aberaeron yn cefnogi Josh Tarling. Llun: Nia Richards

"Bydd nifer yn gwylio Josh mewn tafarndai a chartrefi, ac yn gwneud yn siŵr bod eu bloeddio yn cael eu clywed yr holl ffordd ym Mharis.

"Ma' Aberaeron yn cefnogol ofnadwy iddo fe. 'Ma rhan fwya' o’r siopau a tafarndai tu ôl iddo fe, ma arwyddion yn y siope yn ei gefnogi fe a ma hynny mor neis.

“Bydden i’n llefain os fydd e'n ennill medal, a fi’n teimlo fel bod gobaith mawr i gael medal - a dyma’r gyfle gorau iddo i gael y medal aur."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.