Newyddion S4C

'Braint fy mywyd': Joe Biden yn siarad am y tro cyntaf ers gadael y ras arlywyddol

25/07/2024
joe biden.png

Mae Joe Biden wedi siarad am y tro cyntaf ers cyhoeddi ei fod yn gadael y ras arlywyddol yn yr UDA.

Ddydd Sul, fe gyhoeddodd Mr Biden, sydd yn 81 oed, ei fod yn gadael y ras arlywyddol wedi pryderon cynyddol am ei iechyd, gan ddweud mai dyma oedd "braint ei fywyd i'ch gwasanaethu chi fel arlywydd".

Wrth annerch y genedl ddydd Mercher, dywedodd Mr Biden: "Ni all unrhyw beth effeithio ar ein gallu i achub ein democratiaeth, ac mae hynny yn cynnwys uchelgais personol."

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid: "Mae amddiffyn democratiaeth, sy'n y fantol, yn llawer pwysicach nag unrhyw deitl.

"Dwi wedi penderfynu mai'r ffordd orau ymlaen ydy pasio'r dyletswyddau i genhedlaeth newydd. Dyna ydy'r ffordd orau i uno ein cenedl."

Cafodd y pryderon eu mynegi gan arweinydd y Democratiaid yn y Senedd Americanaidd, Chuck Schumer, ac Arweinydd Lleiafrif y Tŷ, Hakeem Jeffries, a wnaeth gyfarfod â Mr Biden yn unigol i fynegi pryderon am ei ymgyrch i gyrraedd y Tŷ Gwyn ar gyfer ail dymor.

Roedd Nancy Pelosi, cyn llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwr, hefyd wedi dweud wrtho’n breifat na all guro Donald Trump yn yr etholiad ym mis Tachwedd.

Fe ddiolchodd Mr Biden i'w ddirprwy arlywydd Kamala Harris, gan ei disgrifio yn "brofiadol ac yn alluog. Mae hi wedi bod yn bartner anhygoel i mi, ac yn arweinydd i'n gwlad ni."

Bydd cyfnod Mr Biden fel arlywydd yn dod i ben ar 20 Ionawr 2025. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.