Newyddion S4C

Merch 13 oed wedi marw ar ôl i'w thad golli rheolaeth o'i gar tra'r oedd dan ddylanwad

24/07/2024

Merch 13 oed wedi marw ar ôl i'w thad golli rheolaeth o'i gar tra'r oedd dan ddylanwad

Bu farw merch 13 oed pan wnaeth ei thad oedd dan ddylanwad diod a chyffuriau golli rheolaeth o’i gar BMW, clywodd cwest ddydd Mercher.

Roedd tad Lacie Jade Roberts, Daniel Roberts, 34 oed, wedi gyrru dros 100mya ac roedd ei bartner wedi erfyn arno i arafu.

Cafodd y gwrthdrawiad ar y A548 ger Bagillt, Sir y Fflint ar 22 Ebrill, 2022 ei gofnodi ar gamerâu cylch cyfyng.

Diodefodd Lacie Jade Roberts o'r Fflint sawl anaf wrth i’r car fynd drwy ffens, ar draws maes parcio cyn bwrw i mewn i adeilad.

Bu farw ei thad hefyd yn y gwrthdrawiad.

Mewn datganiad, dywedodd partner Daniel Roberts, Jennifer Vale a oedd yn y car hefyd eu bod yn teithio i'w chartref yn Maes-glas.

“Dywedais ‘ydych chi’n iawn i yrru’ ac fe ddywedodd ‘Rwy’n iawn’,” meddai.

Ychwanegodd ei bod hi wedi dweud wrth Mr Roberts: “’Peidiwch â gyrru fel idiot.’ 

“Roedd yn hoffi gyrru'n gyflym. Yn y gorffennol roeddwn i wedi gorfod dweud wrtho am arafu, ac mae wedi gwneud hynny.”

Dywedodd Ms Vale fod Mr Roberts - oedd â chocên yn ei system - wedi bod yn gyrru'n gyflym, tua 100mya, ond bod plant yng nghefn y car "wrth eu bodd".

”Gweiddais 'dyna ddigon',” meddai. “Teimlais y car yn drifftio i’r ochr a meddwl ‘o na mae wedi colli rheolaeth’.”

Nid oedd hi wedi sylweddoli bod ei phartner wedi ei wahardd rhag gyrru ar y pryd, meddai.

‘Gwastraff’

Cofnododd John Gittins, uwch grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, gasgliad o ladd anghyfreithlon oherwydd bod gan y gyrrwr ddyletswydd i ofalu am Lacie. 

Dywedodd fod y car wedi cael ei yrru ar gyflymder “sylweddol uwch na’r terfyn cyflymder” gan yrrwr oedd wedi’i wahardd a oedd dros y terfyn am yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau. 

Cafodd Lacie anafiadau nad oedd modd eu goroesi pan fu’r BMW mewn gwrthdrawiad â chanolfan ffitrwydd Lyons Den ym Magillt, meddai.

Dywedodd y crwner wrth deulu Lacie: “Ni allaf wneud pethau’n well."

Dywedodd mam Lacie, Kieley Messham, y byddai hi “wedi bod y fam harddaf erioed. 

“Bydd fy nghalon wedi ei thorri am weddill fy oes.”

“Mae’n wastraff ar fywyd Lacie,” meddai. 

“Roedd hi mor ifanc ac yn llawn hwyl. Gellid bod wedi ei atal, nid damwain oedd marwolaeth Lacie.

 “Mae’r effaith ar ein bywydau wedi bod yn gwbl ddinistriol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.