Y Teulu Brenhinol yn derbyn £45m o arian cyhoeddus ychwanegol
Bydd y Teulu Brenhinol yn derbyn £45 miliwn o arian cyhoeddus ychwanegol sef cynnydd o fwy na 50% yn ei incwm blynyddol swyddogol, yn ôl cyfrifon brenhinol.
Roedd cynnydd mewn elw o Ystâd y Goron i £1.1biliwn yn golygu y byddai’r Grant Sofran yn cynyddu o £86.3miliwn yn 2024/2025 i £132miliwn yn 2025/2026.
Mae'r Grant Sofran yn cael ei ariannu gan y trethdalwr ac yn cefnogi dyletswyddau swyddogol y Teulu Brenhinol.
Ar hyn o bryd, mae'r Teulu Brenhinol yn derbyn 12% o elw Ystâd y Goron i ariannu ei gwaith yn ogystal ag ariannu'r gwaith o adnewyddu Palas Buckingham am 10 mlynedd, sef prosiect gwerth £369m.
Dywedodd cynorthwywyr brenhinol y bydd y cynnydd yn cael ei ddefnyddio i gwblhau'r palas erbyn 2027.
Bydd y Grant Sofran yn cael ei adolygu yn 2026-27 i ailasesu’r swm sy'n cael ei drosglwyddo i’r Teulu Brenhinol gan sicrhau ei fod ar “lefel briodol”.
Llun: PA