Newyddion S4C

Joe Biden yn tynnu allan o’r ras arlywyddol

23/07/2024

Joe Biden yn tynnu allan o’r ras arlywyddol

Ar nos Sul dawel, newyddion i siglo'r byd.

"We've got some major breaking news and according to multiple reports President Biden has dropped out of the 2024 race."

"President Biden will step aside."

"President Joe Biden has just announced that he is dropping out of the 2024 Presidential race."

"Roedd e'n amser iddo fo fynd a hynny'n amlwg."

"Ni'n hapus bod nhw'n cefnogi Kamala Harris.

"Gobeithio bydd e'n debate go dda. Mae'n career prosecutor.

"Byddwn ni'n cael gweld hwnna ar y stage a sut mae Trump yn gallu delio efo rhywun sy'n gofyn y cwestiynau caled."

Fe ddaeth penderfyniad Joe Biden ar ôl cyfres o ddigwyddiadau wnaeth danlinellu ei wendidau.

"I will continue to move until we get a total ban on the total initiative relative to what we'll do with more border control."

"President Trump?"

"I really don't know what he said at the end of that sentence.

"I don't think he knows what he said either."

Roedd yna gwestiynau ynglŷn a'i oed, a'i allu wrth iddo faglu ei ffordd trwy'r ymgyrch.

"Ladies and gentlemen, the President Elect."

Yr Arlywydd Biden yw'r dyn hynaf erioed i gamu i'r swydd wleidyddol fwya pwerus yn y byd.

"I Joseph Robinette Biden Jr. do solemnly swear."

Enillodd yr etholiad ar ôl cyfnod anodd yn America.

Terfysgoedd hiliol, protestiadau, trais ar y strydoedd.

Gwrthod derbyn y canlyniad wnaeth ei ragflaenydd gan arwain at anrhefn yn yr Unol Daleithiau.

"O'dd e fel gwylio ffilm.

"O'dd rhywbeth ofnus ofnadwy gweld bod yr Arlywydd ddim yn ymateb a gwneud dim.

"O'dd hwnna'n beryglus iawn a wnaeth o ddim am oriau.

"Gall y wlad ddim fforddio cael rhywun arall i wneud hynna."

Ers 1973, a'i ethol fel Seneddwr ifanc Delaware mae Joe Biden wedi bod wyneb amlwg yng ngwleidyddiaeth America.

Yn ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol dramor ac yn America, gan geisio diwygio system iechyd yr Unol Daleithiau tra'n ddirprwy-Arlywydd i Barack Obama yn 2008.

Ar ôl cyfnod Donald Trump yn Arlywydd fe gafodd Biden ei ethol yn 2020.

Cafodd biliynau o ddoleri eu danfon i Wcrain i helpu eu hamddiffyn yn erbyn Rwsia.

Ond mi fydd yr anrhefn wrth i filwyr America adael Afghanistan a'r amharodrwydd i ymyrryd ymhellach yn y rhyfel yn Gaza yn golygu na fyddai yn cael ei gofio fel ffigwr cwbl boblogaidd ymhlith ei blaid ei hun.

Ac yn fwy diweddar, mae ei wendidau wedi bod yn hwb i ymgyrch Trump.

"A vote for Trump is your ticket back to freedom passport out of tyranny.

"Joe Biden is on a fast track to hell."

Fydd ymadawiad Joe Biden o'r ymgyrch etholiadol ddim yn syndod i Americanwyr.

"I am praying that by him dropping out Kamala can step in."

"I think Trump's in it to win it.

"I think he'll get the vote over Kamala."

Aros mewn pŵer ydy'r flaenoriaeth rŵan i'r Democratiaid.

Heddiw, tu allan i'r Tŷ Gwyn, teyrnged i waith Biden.

"Every day, our President fights for the American people and we are deeply grateful for his service to our nation."

Daeth penderfyniad Biden neithiwr i dynnu nôl o'r ras yn sgîl pwysau o fewn ei blaid ei hun.

Wrth wneud hynny, mae'r Democratiaid wedi cymryd risg enfawr wrth baratoi at yr ymgyrch i aros yn y Tŷ Gwyn.

Petai Kamala Harris yn cael ei dewis mae'r arolygon barn yn awgrymu y bydd hi'n agos rhwng hi a Trump.

Dydy neb wedi camu o'r ras mor hwyr â hyn o'r blaen ac mae'n gadael America mewn sefyllfa mwy ansicr nag erioed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.