
Cyn-nyrs o Zimbabwe yn dychwelyd i Abertawe i ddathlu pen-blwydd arbennig
Mae cyn-nyrs o Zimbabwe wedi penderfynu dathlu ei phen-blwydd yn 80 mewn ysbyty yn Abertawe wedi iddi ddechrau ei gyrfa yno.
A hithau wedi ymddeol yn Llundain, dywedodd Agnes Musikavanhu nad yw hi erioed wedi anghofio’r croeso cynnes Cymreig a gafodd hi pan ddechreuodd ei gyrfa yn 22 oed, yn 1967.
Fe dreuliodd Ms Musikavanhu gyfnod yn gweithio yn Llundain. Fe weithiodd hi hefyd am 20 mlynedd ym maes iechyd y cyhoedd ac yn rheoli clinig preifat ar ôl dychwelyd am gyfnod i Zimbabwe. Ond er hynny roedd hi'n benderfynol o dreulio ei phen-blwydd yn Ysbyty Treforys, meddai.
Pan ofynnodd ei meibion, Farai, Tendai a Rugare, sut yr oedd hi am ddathlu ei diwrnod, dywedodd Ms Musikavanhu ei bod am ddychwelyd i’r ysbyty ble dechreuodd ei gyrfa.
“Dywedodd fy meibion, 'Mam, rydych ar fin troi'n 80. Beth hoffech chi ei wneud?'
“Dywedais, 'Wyddoch chi beth? O bob peth, rwyf am fynd yn ôl i Ysbyty Treforys yn Ne Cymru, lle deuthum yn ferch ifanc. Rydw i eisiau treulio fy mhen-blwydd yn 80 yno.'
“Mae gen i atgofion hapus o fy amser yn Nhreforys.
“Mae'r Cymry yn gynnes iawn, yn gyfeillgar iawn ac yn gymdeithasol iawn. Gallwch weld hynny gyda'r ffordd y maent yn fy nerbyn i. Dyna pam roeddwn i eisiau dod yma,” meddai.

'Croeso cynnes'
Dywedodd Agnes Musikavanhu ei bod yn “falch” ac yn “hapus iawn” o weld gymaint o nyrsys dramor bellach yn gweithio yn Ysbyty Treforys, gan mai hi oedd y “nyrs ddu gyntaf i ddod yma o Rodesia.”
“Pan ddes i yma fi oedd yr unig un, ac mae gwybod eich bod chi wedi recriwtio cymaint o bobl o dramor, sy'n amlhiliol, yn arbennig.
“Roeddwn i mor ofnus yn dod yma - ar y pryd roedd arwahanu rhwng pobl wyn a du yn Rhodesia.
“Pan gyrhaeddais i Dreforys fi oedd yr unig ferch ddu. Roeddwn i'n teimlo'n unig am y ddau ddiwrnod cyntaf ond mae'r Cymry mor hyfryd. Byddent yn dweud, 'Dewch i siarad â mi,' a 'gadewch i ni fynd i'r ystafell fwyta gyda'n gilydd'.
“Ac yn fuan fe ddes i’n gyfarwydd,” meddai.
Cafodd Ms Musikavanhu a’i meibion eu cyfarch gan staff yr ysbyty gyda phaned o de a phice ar y maen. Fe wnaethon nhw hefyd ganu ‘Pen-blwydd Hapus’ iddi yn Gymraeg.
Roedd Rebecca Davies, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Gofal Brys a Gweithrediadau Ysbyty yn Ysbyty Treforys yno i gyfarch Agnes.
“Mae gennym ni groeso cynnes Cymreig ym Mae Abertawe ac rwy’n falch iawn o’r hyn a wnaeth Agnes fel arloeswr i’r holl nyrsys sydd wedi teithio i weithio yma,” meddai.
