Dirwy o £240,000 i gwmni ar ôl i ddyn o Fangor gael ei barlysu yn dilyn cwymp

Mae cwmni trosglwyddo trydan wedi derbyn dirwy o £240,000 ar ôl i ddyn o Fangor gael ei barlysu o’r frest i lawr yn dilyn cwymp o 30 troedfedd wrth weithio iddyn nhw.
Roedd Gavin Pugh wedi'i gyflogi gan Wood Transmission and Distribution Limited ac wedi bod yn dymchwel ac yn ailosod peilonau trydan yn Nwyrain Stafford pan ddigwyddodd y ddamwain ar 6 Ebrill 2022.
Fe wnaeth Llys Ynadon Birmingham glywed sut wnaeth Mr Pugh, oedd yn 35 oed ar y pryd, a'i gydweithwyr ddechrau gweithio ar beilon o'r enw Tower AE11 i'w baratoi ar gyfer ei ddymchwel.
Doedden nhw ddim yn ymwybodol bod tîm arall o linellwyr wedi gwneud gwaith blaenorol i lacio'r bolltau ar y tŵr.
Fe glywodd y llys nad oedd y gwaith hwnnw wedi cael ei asesu o ran risg a doedd dim cofnod manwl ohono.
Roedd y tîm a gafodd eu danfon i'r safle'r diwrnod hwnnw, hefyd yn brin o staff ar gyfer y gwaith oedd yn cael ei wneud.
Pan glymodd Mr Pugh ei gortyn amddiffyn ar ddarn o ddur nid oedd yn ymwybodol ei fod wedi ei folltio ar ei ran uchaf yn unig.
Wrth i Mr Pugh symud o gwmpas y tŵr, fe wnaeth y dur oedd o’n gysylltiedig ag o ollwng gan achosi i'w gortyn ddisgyn yn rhydd.
Fe wnaeth o dreulio chwe mis yn yr ysbyty ar ôl syrthio, ac nid yw’n gallu gweithio hyd heddiw o ganlyniad i'w anafiadau.
'Trasig'
Fe wnaeth ymchwiliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganfod bod Wood Transmission and Distribution Limited wedi methu â:
- Sicrhau bod y gwaith uchel wedi’i gynllunio’n briodol, ei oruchwylio’n briodol, a’i wneud mewn modd a oedd yn ddiogel, a’i gyflawni mewn modd a oedd, cyn belled ag yr oedd yn rhesymol ymarferol, yn ddiogel. .
- Asesu'r risgiau oedd yn gysylltiedig â chracio bolltau.
- Darparu digon o adnoddau ar gyfer y dasg yn unol â'i ddogfennaeth ddiogelwch ei hun.
- Rhoi proses ar waith ar gyfer trosglwyddo gwaith rhwng timau a sicrhau bod gwybodaeth hanfodol o ran diogelwch yn cael ei chofnodi a'i chyfleu'n effeithiol.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Wood Transmission and Distribution Limited bledio’n euog yn Llys Ynadon Birmingham i dorri rheol 4(1) Rheolau Gweithio’n Uchel 2005.
Mewn gwrandawiad ar 17 Gorffennaf, fe gafodd y cwmni ddirwy o £240,000 ac roedd wedi cael gorchymyn i dalu costau o £14,142.
Dywedodd Arolygydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Robert Gidman: “Gallai’r digwyddiad trasig hwn fod wedi’i atal pe bai Wood Transmission and Distribution Limited wedi rhoi trefniadau digonol ar waith i amddiffyn ei weithwyr rhag niwed.
“Dylai cwmnïau fod yn ymwybodol na fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn oedi cyn cymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y rheini sy’n disgyn islaw’r safonau gofynnol.”
Llun: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch